Cyswllt Teulu: Sesiynau Iaith a Chwarae
Mae sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal am ddim ledled Sir Ddinbych Caiff y sesiynau eu rhedeg gan Weithwyr Cyswllt Teulu bob wythnos yn ystod y tymor.
Mae ein holl sesiynau’n cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd i helpu plant i feithrin sgiliau iaith a chymdeithasu mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar i’w paratoi ar gyfer mynd i’r ysgol.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r sesiynau Iaith a Chwarae ar gyfer plant 1 i 3 oed.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Cynhelir y sesiynau mewn ysgolion amrywiol ledled Sir Ddinbych.
Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal:
Ysgol Caer Drewyn (Corwen)
Ysgol Caer Drewyn
Tymor yr haf un
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol Caer Drewyn o 9am tan 10:30am ar:
- Dydd Llun 13 Ebrill 2026
- Dydd Llun 20 Ebrill 2026
- Dydd Llun 27 Ebrill 2026
- Dydd Llun 11 Mai 2026
Tymor yr haf dau
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol Caer Drewyn o 9am tan 10:30am ar:
- Dydd Llun 1 Mehefin 2026
- Dydd Llun 8 Mehefin 2026
- Dydd Llun 15 Mehefin 2026
- Dydd Llun 29 Mehefin 2026
- Dydd Llun 6 Gorffennaf 2026
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Caer Drewyn
Ysgol Gymraeg y Gwernant (Llangollen)
Ysgol Gymraeg y Gwernant
Tymor yr haf un
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol Gymraeg y Gwernant o 9am tan 10:30am ar:
- Dydd Mercher 15 Ebrill 2026
- Dydd Mercher 22 Ebrill 2026
- Dydd Mercher 29 Ebrill 2026
- Dydd Mercher 6 Mai 2026
- Dydd Mercher 13 Mai 2026
Tymor yr haf dau
Cynhelir y sesiynau Iaith a Chwarae yn Ysgol Gymraeg y Gwernant o 9am tan 10:30am ar:
- Dydd Mercher 3 Mehefin 2026
- Dydd Mercher 10 Mehefin 2026
- Dydd Mercher 17 Mehefin 2026
- Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
- Dydd Mercher 1 Gorffennaf 2026
- Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Gymraeg y Gwernant
Sut i gymryd rhan
Gallwch ddod â’ch plentyn (1 i 3 oed) i unrhyw sesiwn Iaith a Chwarae o’ch dewis (nid oes angen i chi archebu lle o flaen llaw).
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych
Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)