Ynglŷn â Cyswllt Teulu

Mae Gweithwyr Cyswllt Teulu Sir Ddinbych yn gweithio'n agos â theuluoedd, ysgolion a lleoliadau cyn ysgol i sicrhau fod pob plentyn yn cael profiad addysg cadarnhaol ac yn cael cyfleoedd i gyrraedd eu potensial llawn.

Cefnogi teuluoedd

Mae Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd yn cynnig cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i deuluoedd sy’n cael anawsterau megis: 

  • Gwahanu/ysgariad
  • Profedigaeth
  • Salwch hirdymor neu bryderon meddygol
  • Tai/ achos o droi allan
  • Anawsterau ariannol
  • Salwch meddwl
  • Trais domestig
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Cyflogaeth a hyfforddiant

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych

Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)