Gwneud Cais am Ofal Plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Gallwch wneud cais am ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed (gofal plant Dechrau’n Deg yn flaenorol) ar wahanol adegau drwy’r flwyddyn, yn dibynnu ar bryd mae eich plentyn yn troi’n ddwy oed.
Sut i wneud cais
Mae’n rhaid i chi wneud cais am ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed drwy Gyngor eich ardal leol. Os ydych chi’n byw tu allan i Sir Ddinbych, bydd angen i chi wneud cais i un o’r canlynol:
Gall rhieni a gofalwyr â phlentyn a aned rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 nawr wneud cais am ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed.
Y dyddiad cau yw dydd Sul, 8 Tachwedd 2026.
Gwneud cais ar-lein
Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein.
Gwneud cais ar-lein am ofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed
Os ydych chi’n methu’r dyddiad cau
Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed, gallwch gysylltu â ni i weld a yw’r gofal plant dal ar gael.
Ceisiadau llwyddiannus
Os bu eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau bod eich plentyn wedi derbyn lle a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant 2 oed, ac yn rhoi manylion ar beth sy’n digwydd nesaf.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer mwy nag un plentyn, byddwch yn cael e-bost ar wahân ar gyfer pob cais.
