Grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan
Ymunwch â ni ar gyfer grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan sy’n cynnal amrywiaeth o sesiynau hwyliog ac yn annog cyfathrebu a datblygiad ieithyddol drwy chwarae gyda babis.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau
Mae sesiynau grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan ar gyfer rhieni/gofalwyr yn Sir Ddinbych sydd â babis hyd at 1 oed ac nad ydynt yn cerdded eto.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Dewiswch leoliad am wybod pryd a lle mae sesiynau grŵp siarad gyda’ch babi’ Elklan yn digwydd:
Tai Gwarchod Llygadog
Grwpiau yn Tai Gwarchod Llygadog
Mae grwpiau ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan yn cael eu cynnal yn Tai Gwarchod Llygadog o 10am tan 11:30am:
- Dydd Mercher 23 Medi 2026
- Dydd Mercher 30 Medi 2026
- Dydd Mercher 7 Hydref 2026
- Dydd Mercher 14 Hydref 2026
- Dydd Mercher 21 Hydref 2026
Gwybodaeth am Tai Gwarchod Llygadog
Cyfeiriad y lleoliad lle cynhelir y sesiynau yw:
Tai Gwarchod Llygadog
Clawdd Poncen
Corwen
LL21 9YD
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae toiledau a lleoedd parcio car i bobl anabl yn y lleoliad.
Sut i gymryd rhan
Mae’n rhaid i chi archebu lle i fynychu’r grŵp.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
Os hoffech archebu lle, ffoniwch 01824 708088:
- Dydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm