Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn un o’n grwpiau chwarae partner, ein Cylchoedd Mudiad Meithrin neu Feithrinfeydd Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol. 

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i deuluoedd sy'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg yn:

  • Corwen
  • Dinbych
  • Dyserth
  • Gallt Melyd
  • Henllan
  • Llangollen
  • Prestatyn
  • Rhuddlan
  • y Rhyl

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg

Beth sydd ar gael?

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant am ddim (fel arfer pum sesiwn yr wythnos) yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad a gofrestrwyd i gyflwyno’r rhaglen Dechrau'n Deg.

Gellir defnyddio’r gofal plant o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair.

Rydym yn monitro presenoldeb plant Dechrau'n Deg yn eu lleoliad o’u dewis. Gall eich cyllid gofal plant fod mewn perygl os yw presenoldeb eich plentyn yn gostwng yn is na 50% ar draws tymor.  Cyfrifoldeb y rhieni/gofalwyr yw hysbysu’r lleoliad gofal plant ynglŷn ag unrhyw absenoldebau a’r rhesymau dros y rhain.

Argaeledd Gofal Plant Dechrau’n Deg
Dyddiad pen-blwydd y plentyn yn 2 oedBydd gofal plant yn ystod tymor ysgol ar gael
Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Awst 2025 Tymor ysgol yr hydref tan ddiwedd tymor ysgol yr haf
Rhwng 1 Medi 2024 a 5 Ionawr 2025 Tymor ysgol y gwanwyn tan ddiwedd tymor ysgol y gaeaf
Rhwng 6 Ionawr 2025 a 27 Ebrill 2025 Tymor ysgol yr haf tan ddiwedd tymor ysgol y gwanwyn

Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar bob sesiwn, ond fel arfer byddant yn:

  • 9am tan 11:30am
  • 1pm tan 3:30pm

Mae pob cais yn amodol ar y lleoedd sydd ar gael.

Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Dewiswch dref i weld y lleoliadau gofal plant ble mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael:

Sut i wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg

Mae gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg ar gael ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn Mae’r tabl canlynol yn ymddangos pan fydd modd gwneud cais:

Argaeledd gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg
Dyddiad pen-blwydd y plentyn yn 2 oedPryd fydd modd gwneud cais
Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Awst 2025 5 Mai 2025 i 21 Gorffennaf 2025
Rhwng 1 Media 2024 a 5 Ionawr 2024 4 Hydref 2024 i 15 Tachwedd 2024
Rhwng 6 Ionawr 2025 a 27 Ebrill 2025 13 Ionawr i 21 Chwefror 2025

Gwneud cais ar-lein

Mae’r broses gwneud cais bellach yn agored ar gyfer rhieni / gofalwyr sydd â phlant sy’n cael eu hail ben-blwydd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Awst 2025.

Os nad yw ail ben-blwydd eich plentyn rhwng y dyddiadau hyn, peidiwch ag ymgeisio am ofal plant gan na fyddwch yn gymwys.  

Os ydych wedi colli’r dyddiad i wneud cais ar gyfer Gofal Plant Dechrau’n Deg, gallwch anfon e-bost atom ni i ddarganfod os yw Gofal Plant Dechrau’n Deg yn dal i fod ar gael.


Ar ôl cyflwyno cais

Os ydych wedi cyflwyno cais, byddwch yn cael galwad ffôn gan aelod o’r tîm Gofal Plant Dechrau'n Deg, pan fyddwn yn gwirio’r manylion a roddwyd gennych a thrafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Ceisiadau llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Tîm Dechrau'n Deg yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau bod eich plentyn wedi cael darpariaeth gofal plant.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer mwy nag un plentyn, byddwch yn cael e-bost ar wahân ar gyfer pob cais.

Dim ond Swyddog Gweinyddol a’r Arweinydd Tîm Gofal Plant Dechrau'n Deg sy’n gyfrifol am ddyrannu lleoedd gofal plant a rhoi gwybod i’r lleoliadau gofal plant a’r rhieni/gofalwyr am y lleoliadau.

Gormod o Geisiadau

Os ydym yn cael mwy o geisiadau am leoedd na sydd gan leoliad gofal plant, yna dilynir ein meini prawf gormod o geisiadau, ble byddwn yn ystyried:

  • oed y plentyn
  • unrhyw frodyr a chwiorydd sy’n mynd i’r lleoliad/ysgol
  • unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Os yw hyn yn digwydd efallai y byddwch yn cael cynnig lle gyda’ch ail ddewis. Os nad yw’ch plentyn yn cael lle yn unrhyw un o’r lleoliadau Dechrau'n Deg a nodwyd gennych, nid oes hawl ffurfiol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os ydych yn gwrthod cynnig o ddarpariaeth gofal plant arall, rhoddir eich plentyn ar restr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael gan eich darparwr Dechrau'n Deg a ffefrir.

Ceisiadau hwyr

Os ydych wedi colli’r dyddiad i wneud cais ar gyfer Gofal Plant Dechrau’n Deg, gallwch anfon e-bost atom ni i ddarganfod os yw Gofal Plant Dechrau’n Deg yn dal i fod ar gael.

Gellir dyrannu lle os oes lleoedd ar gael yn y lleoliad a wnaed cais amdano. Os nad oes lleoedd ar gael, rhoddir eich plentyn ar restr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael. 

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg yw datblygu a chefnogi’r holl bethau rydych eisoes wedi ei ddysgu i’ch plentyn. Mae’n gyfle i’ch plentyn ddod i arfer gyda chwarae mewn grŵp mwy, cymryd tro, gwneud ffrindiau a datblygu eu sgiliau sylw, meddwl a gwrando wrth archwilio a chael hwyl. Byddant yn dysgu caneuon newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.