Dechrau’n Deg: Academi Nofio
Mae Academi Nofio Dechrau’n Deg er mwyn i chi a’ch plentyn fwynhau gweithgareddau hwyliog a magu hyder yn y dŵr.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd yn gymwys am raglen Dechrau’n Deg sydd â phlant hyd at 4 mlwydd oed y mae Academi Nofio Dechrau’n Deg ar gael.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Mae Academi Nofio: Dechrau’n Deg yn cynnwys:
- Un cwrs diogelwch nofio (bydd yr amser a’r dyddiad yn cael ei gadarnhau pan fydd y cwrs yn llawn)
- Pum gwers nofio 30 munud o hyd
Dewiswch grwp i ddarganfod pryd fydd y sesiynau nofio’n cael eu cynnal.
Grŵp un
Cwrs diogelwch nofio grŵp un
Mae'r cwrs diogelwch nofio grŵp un yn digwydd o 12 hanner dydd tan 1pm yn Canolfan y Dderwen ar Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025.
Sesiynau nofio ar gyfer grŵp un
Mae sesiynau nofio ar gyfer grŵp un yn cael eu cynnal yn y Nova Prestatyn ar:
- Dydd Mawrth 4 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
Byddwn yn gadael i chi wybod faint o’r gloch y bydd eich sesiwn yn cael ei gynnal.
Grŵp dau
Cwrs diogelwch nofio grŵp dau
Mae'r cwrs diogelwch nofio i grŵp dau yn digwydd o 1pm tan 2pm yn Canolfan y Dderwen ar Dydd Mawrth 18 Chwefror 2025.
Sesiynau nofio ar gyfer grŵp dau
Mae sesiynau nofio ar gyfer grŵp dau yn cael eu cynnal yn y Nova Prestatyn ar:
- Dydd Mawrth 4 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 11 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025
- Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025
Byddwn yn gadael i chi wybod faint o’r gloch y bydd eich sesiwn yn cael ei gynnal.
Gwybodaeth am leoliad
Dewiswch un o’r canlynol i ddysgu mwy am leoliad:
Canolfan y Dderwen
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Nova Prestatyn
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Nova yw:
Bastion Road
Prestatyn
LL19 7EY
Pacio
Mae dau faes parcio yn agos i'r Nova:
Sut i gymryd rhan
Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg ac archebu lle i fynychu Academi Nofio Dechrau’n Deg.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
I gadw lle
Mae’r Academi Nofio’n llawn ar hyn o bryd, ond os hoffech i ni eich ychwanegu at ein rhestr aros, ffoniwch ni 03000 856 594:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm