Teuluoedd yn Gyntaf: Cymorthfeydd Thema
Mae Cymorthfeydd Thema yn rhoi cyfle i chi siarad bob wythnos gyda gweithiwr proffesiynol sydd yn arbenigo mewn maes arbennig. Bob pedair wythnos, mae yna sesiwn hunan-ofal i dynnu sylw at bwysigrwydd bod rhieni a gofalwyr yn edrych ar ôl eu lles eu hunain.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau
Mae Cymorthfeydd Thema i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc:
- sydd rhwng 5 a 18 mlwydd oed
- sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (wedi cael diagnosis neu beidio)
- sydd yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Nid oes sesiynau wedi'u cynllunio ar hyn o bryd. Gwnewch ymchwiliad yn rheolaidd am ddiweddariadau.