Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant

Mae Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant yn gwrs 11 wythnos sy'n helpu teuluoedd i gael bywyd hapus ac iachach, ac yn rhoi awgrymiadau gwych ar sut i ddeall a rheoli eich plant.

Rhiant yn dal llaw ei fab

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Mae Rhaglen Cysylltiadau Teuluol: Magu Plant ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n derbyn gwasanaethau trwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf neu sy'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Cynhelir sesiynau ar gyfer y cwrs hwn yng Nghanolfan y Dderwen rhwng 9:30am a 11:30am ar:

  • Dydd Mawrth 16 Medi 2025
  • Dydd Mawrth 23 Medi 2025
  • Dydd Mawrth 30 Medi 2025
  • Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
  • Dydd Mawrth 14 Hydref 2025
  • Dydd Mawrth 21 Hydref 2025
  • Dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025
  • Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
  • Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025
  • Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025
  • Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel

Sut i gymryd rhan

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

Sut i gymryd rhan

I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm

Rhagor o wybodaeth

Dysgwch fwy am y Rhaglen Cysylltiadau Teuluol; Magu Plant (gwefan allanol)