Dechrau'n Deg: Sesiynau Cefnogi i Ddysgu Sut i Ddefnyddio’r Toiled
Mae Dechrau’n Deg yn cynnal sesiynau cefnogi i rieni a gofalwyr i’w helpu i ddysgu eu plant sut i ddefnyddio’r toiled. Mae’r sesiynau yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â:
- dulliau o ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn barod ar gyfer dechrau’r ysgol
- adnoddau ymarferol
- problemau a heriau cyffredin wrth ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled
- cymorth ar-lein a chymorth ychwanegol

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r Sesiynau Cefnogi i Ddysgu Sut i Ddefnyddio’r Toiled ar gael ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg a sydd â phlant rhwng 18 mis a 3 oed yn unig.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Nid oes sesiynau wedi'u cynllunio ar hyn o bryd. Gwnewch ymchwiliad yn rheolaidd am ddiweddariadau.