Medi 2024
9 Medi: Croeso’n ôl!
Sgwrsio am drosglwyddo a gwyliau’r ysgol.
Cwestiwn bwrdd gwyn: sut mae’n teimlo i fod yn ôl mewn addysg?
Gall pobl ifanc gyfrannu syniadau ar gyfer sesiynau paned a sgwrs a pha fyrbrydau yr hoffent eu gwneud yn y dyfodol.
Fe fydd grwpiau bychan o bobl ifanc yn gwneud diodydd a fflapjacs neu deisennau Corn Flake yn y gegin.
16 Medi: Cerddoriaeth - Diwrnod Rhyngwladol Canu Gwlad
Bydd y bobl ifanc yn edrych ar bob genre o gerddoriaeth ac yn edrych ar hanes steiliau gwahanol, yn cynnwys cynnydd ym mhoblogrwydd pop, pync a roc.
Chwarae cerddoriaeth wahanol a’i drafod yn ogystal â darganfod pwy sy’n gallu chwarae offeryn.
Bydd y bobl ifanc yn trafod hunaniaeth a pham ein bod yn teimlo’r angen i berthyn, yn ogystal â derbyn a chroesawu ein gwahaniaethau.
23 Medi: Noson lansio ap YouFi
Mae YouFi, ap newydd Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych ar gael i’w lawrlwytho. Caiff pobl ifanc y cyfle i edrych ar nodweddion yr ap a siarad gyda’r tîm a’i dyluniodd.
30 Medi: Tymhorau
Sesiwn am heriau’r gaeaf gan ganolbwyntio ar y gymuned. Beth sy’n digwydd i dwristiaeth a sut mae’n effeithio ar yr economi leol? Gyda nosweithiau tywyllach a llai i’w wneud y tu allan min nos, ydi arwahanrwydd cymdeithasol yn broblem? Sut mae’r newid o’r haf i hydref yn effeithio ar hwyliau, dillad a dewisiadau bwyd?
Gweithgaredd celf - mewn collage, mynegwch beth mae mis Hydref/yr hydref yn ei olygu i chi.
Bwyd - byddwn yn paratoi hotpot neu rywbeth cynnes (yn dibynnu ar y tywydd!)