Canolfan ieuenctid Rhuthun

Mynd yn syth i:

Canolfan ieuenctid Rhuthun

Oriau agor

Dydd Mawrth 6pm i 8pm: i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 7 ac uwch.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yn Rhuthun.

Mehefin 2025

Mehefin 2025

3 Mehefin: Cymwynas annisgwyl

Cyfle i edrych ar beth mae’n ei olygu i fod yn garedig a pham ei fod yn bwysig.


10 Mehefin: Sul y Tadau / diwrnod Rhywun Arbennig

Cyfle i wneud cerdyn i rywun arbennig a hefyd i feddwl am syniadau ar gyfer ein cynllun nesaf o weithgareddau.


17 Mehefin: Mis Pride

Bydd gennym sesiwn ymwybyddiaeth LHDTC+ a gweithgareddau celf a chrefft i ddathlu mis Pride.


24 Mehefin: Osgoi’r Bêl / sesiwn gynllunio

Chwaraeon tîm llawn hwyl a chyfle i drefnu gweithgareddau ar gyfer Gorffennaf a Medi.

Gorffennaf 2025

Gorffennaf 2025

8 Gorffennaf: Mynd am bicnic yn ystod Wythnos Genedlaethol y Picnic

Bydd pobl ifanc yn gwneud eu hoff frechdanau a sgwrsio am bob agwedd ar bicnics, fel y lleoedd gorau i fynd a’r manteision ac anfanteision o fod allan ym myd natur.


15 Gorffennaf: Noson hwyl, gemau a bingo

Yn ein sesiwn olaf cyn gwyliau’r haf, byddwn yn sôn am gynlluniau ar gyfer y gwyliau, rhannu ein teimladau am symud yn ein blaenau a sgwrsio am y gwersyll ieuenctid.

Gweithgareddau Gwyliau’r Haf

Gwyliau haf 2025

12 i 14 Awst: Gwersyll haf 2025

Gwersyll haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Medi 2025

Medi 2025

9 Medi: Paned a sgwrs - Croeso’n ôl!

Croesewir aelodau hen a newydd i’r ganolfan ieuenctid i gael sgwrs am y gwyliau a thrafod y pethau da a drwg am ddychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn ymchwilio i gyfeillgarwch fel pwnc ac yn nodi Wythnos yr Ambiwlans Awyr drwy ddysgu am waith yr elusen hon a rhai eraill.


16 Medi: Ymwybyddiaeth o gyfryngau cymdeithasol

Byddwn yn cael sgwrs addas i oedran y cyfranogwyr ynglŷn â gwahanol agweddau ar gyfryngau cymdeithasol a’u heffaith ar fywyd go iawn. Pwy allwn ni ymddiried ynddynt ar-lein, mor bwysig i’w bobl o’n cwmpas ni a sut i ddod ymlaen â nhw.


23 Medi: Gwneud pizza iach

Trafod manteision bwyta’n iach a dewis bwyd yn ddoeth.


30 Medi: Diwylliant

Byddwn yn bwrw golwg ar ddiwylliannau o bedwar ban byd ac yn sôn am y pethau sy’n gwneud amryw wledydd yn enwog.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, defnyddiwch y ddolen berthnasol ar gyfer eich oedran. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Rhuthun (13 oed a hŷn)

Cofrestru gyda Chlwb Ieuenctid Rhuthun (dan 13 oed)

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Hoci aer
  • Bwrdd pêl-droed
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft
Delweddau

Delweddau

Gweithgareddau 1

Gweithgareddau 2

Gweithgareddau 3

Gweithgareddau 4

Gweithgareddau 5

Gweithgareddau 6

Gweithgareddau 7

Gweithgareddau 8

Gweithgareddau 9

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Tudur Parry ydi'r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer de'r sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Rhuthun
Drill Hall
30 Borthyn
Rhuthun
LL15 1NT

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Rhuthun arlein

Rhif ffôn symudol Tudur Parry: 07795 051832

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi: maes parcio Lôn Dogfael

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.