Canolfan ieuenctid Rhuthun

Mynd yn syth i:

Canolfan ieuenctid Rhuthun

Oriau agor

  • Dydd Mawrth 6pm tan 8pm: sesiwn hŷn i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 ac uwch hyd at 17 oed.
  • Dydd Iau 6pm tan 8pm: sesiwn iau i bobl ifanc 11 oed neu hŷn ac ym mlynyddoedd 7 ac 8.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gweithgareddau

Darganfod beth sy’n digwydd yn Rhuthun.

Sesiwn iau

Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

2 Gorffennaf: Codi sbwriel

Bydd pobl ifanc yn cefnogi eu cymuned trwy godi sbwriel y tu allan i’w canolfannau ieuenctid.


9 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.


16 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.


23 Gorffennaf: Wythnos 1 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


28 i 30 Gorffennaf: Wythnos 2 gwyliau’r haf - Gwersyll Haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Yn y pedwerydd gwersyll haf blynyddol a gynhelir o 28 i 30 Gorffennaf, gall pobl ifanc o bob un o'n clybiau ieuenctid ddod at ei gilydd am brofiad gwersylla awyr agored dwy noson.

Awst 2026

Awst 2026

6 Awst: Wythnos 3 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Rhuthun

Daw’r digwyddiad hwn â phartneriaid, teuluoedd a phobl ifanc ynghyd i ddathlu a hyrwyddo’r gwasanaethau a’r prosiectau cymunedol sydd ar gael yn Ninbych ar Gae Ddol rhwng 10:30am a 2:30pm. Bydd gweithgareddau i bawb. Yna’n ôl i ganolfan ieuenctid Rhuthun am gyflwyniad i’r clwb ieuenctid, a bydd pizza ar gael rhwng 12:30pm a 3pm.


13 Awst: Wythnos 4 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


20 Awst: Wythnos 5 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


27 Awst: Wythnos 6 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

Medi 2026

Medi 2026

3 Medi: Canolfan gymunedol ar gau ar gyfer hyfforddiant staff

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


10 Medi: Croeso’n ôl a chwis

Caiff pobl ifanc eu croesawu’n ôl i’r clwb gyda noson o ddal i fyny a chwis rhyngweithiol.


17 Medi: Cynllunio ar gyfer ein mannau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn edrych ar ddyluniadau i wella man awyr agored y ganolfan ieuenctid a phrosiectau eraill yn Sir Ddinbych.


24 Medi: Cystadleuaeth Pŵl

Pobl ifanc i gystadlu mewn gwahanol gystadlaethau pŵl, yn unigol ac mewn timau – gan gynnwys ‘killer pool’, yr enillydd i aros a sgiliau yn erbyn y cloc.

Hydref 2026

Hydref 2026

1 Hydref: Noson Gemau Mawr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn herio'r tîm ieuenctid i gemau fel Kerplunk, Guess Who? a Yahtzee anferth.

Sesiwn hŷn

Gorffennaf 2026

Gorffennaf 2026

7 Gorffennaf: Gemau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gemau awyr agored megis rownderi, tynnu rhaff neu bêl-droed.


14 Gorffennaf: Helfa sborionwyr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn helfa sborionwyr, ble bydd rhaid iddynt weithio mewn timau a rasio i ddod o hyd i bopeth ar y rhestr yn gyntaf. Pwyntiau bonws i’r gorau o bob tîm hefyd.


21 Gorffennaf: Wythnos 1 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


28 i 30 Gorffennaf: Wythnos 2 gwyliau’r haf - Gwersyll Haf Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych

Yn y pedwerydd gwersyll haf blynyddol a gynhelir o 28 i 30 Gorffennaf, gall pobl ifanc o bob un o'n clybiau ieuenctid ddod at ei gilydd am brofiad gwersylla awyr agored dwy noson.

Awst 2026

Awst 2026

6 Awst: Wythnos 3 gwyliau’r haf - Miri Mawr yr Haf, Rhuthun

Daw’r digwyddiad hwn â phartneriaid, teuluoedd a phobl ifanc ynghyd i ddathlu a hyrwyddo’r gwasanaethau a’r prosiectau cymunedol sydd ar gael yn Ninbych ar Gae Ddol rhwng 10:30am a 2:30pm. Bydd gweithgareddau i bawb. Yna’n ôl i ganolfan ieuenctid Rhuthun am gyflwyniad i’r clwb ieuenctid, a bydd pizza ar gael rhwng 12:30pm a 3pm.


11 Awst: Wythnos 4 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


18 Awst: Wythnos 5 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


25 Awst: Wythnos 6 gwyliau’r haf

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.

Medi 2026

Medi 2026

1 Medi: Canolfan gymunedol ar gau ar gyfer hyfforddiant staff

Dim gweithgareddau yr wythnos hon.


8 Medi: Croeso’n ôl a chwis

Caiff pobl ifanc eu croesawu’n ôl i’r clwb gyda noson o ddal i fyny a chwis rhyngweithiol.


15 Medi: Cynllunio ar gyfer ein mannau awyr agored

Bydd pobl ifanc yn edrych ar ddyluniadau i wella man awyr agored y ganolfan ieuenctid a phrosiectau eraill yn Sir Ddinbych.


22 Medi: Cystadleuaeth Pŵl

Pobl ifanc i gystadlu mewn gwahanol gystadlaethau pŵl, yn unigol ac mewn timau – gan gynnwys ‘killer pool’, yr enillydd i aros a sgiliau yn erbyn y cloc.


29 Medi: Noson Gemau Mawr

Bydd pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn herio'r tîm ieuenctid i gemau fel Kerplunk, Guess Who? a Yahtzee anferth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru efo ni’n barod, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen islaw cyn i’ch plentyn allu mynychu ein clybiau ieuenctid. Dylai plant a phobl ifanc dan 13 oed ofyn i riant neu ofalwr lenwi’r ffurflen.

Cofrestru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych (gwefan allanol)

You can choose to change the language to English or Welsh on the form page.

Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen, nid oes angen i chi aros i glywed gennym ni, gallant ymuno â’r sesiwn nesaf sydd ar gael yn unrhyw un o’n clybiau ieuenctid.

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau

  • Mynediad i bobl anabl
  • WiFi am ddim
  • Bwrdd pŵl
  • Tennis bwrdd
  • Hoci aer
  • Bwrdd pêl-droed
  • Playstation
  • Cegin
  • Deunyddiau celf a chrefft
Delweddau

Delweddau

Gweithgareddau 1

Gweithgareddau 2

Gweithgareddau 3

Gweithgareddau 4

Gweithgareddau 5

Gweithgareddau 6

Gweithgareddau 7

Gweithgareddau 8

Gweithgareddau 9

Yn ôl i frig y dudalen.

Cwrdd â’r tîm

Tudur Parry ydi'r Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol ar gyfer de'r sir. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn fe allwch chi siarad efo fo wyneb yn wyneb neu’n defnyddio’r manylion isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Mesurau Diogelwch Covid

Rydym yn parhau i ddilyn y cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â COVID-19 (gwefan allanol). Peidiwch â dod i mewn i’r ganolfan os ydych chi neu’r bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn sâl neu’n dangos symptomau o COVID-19. Tra’r ydych yn y ganolfan, dilynwch unrhyw arwyddion â chyfarwyddiadau diogelwch arnynt ac unrhyw geisiadau gan staff. 

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i ddod o hyd i ni a chysylltu efo ni

Canolfan Ieuenctid Rhuthun
Drill Hall
30 Borthyn
Rhuthun
LL15 1NT

Cysylltwch â chanolfan ieuenctid Rhuthun arlein

Rhif ffôn symudol Tudur Parry: 07795 051832

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru (gwefan allanol)

Meysydd parcio agosaf y Cyngor ydi: maes parcio Lôn Dogfael

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.