Cŵn crwydr

Os ydych wedi dod o hyd i gi sy'n crwydro gwiriwch i weld a oes ganddo dag gyda manylion y perchennog fel y gallwch aduno’r ci gyda'r perchennog cyn cysylltu â'r Warden Cŵn.

Os nad oes tag, neu os nad ydych yn gallu cyrraedd y perchennog, gallwch roi gwybod am y ci crwydr i ni, naill ai drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu drwy ffonio:

  • 01824 706000: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
  • 0300 123 3068: min nos tan 10pm, penwythnosau a gwyliau banc

Bydd ein warden cŵn yn unig yn codi cŵn sy'n cael eu sicrhau. Os ydych yn meddwl bod ci yn beryglus , dylech gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0300 330 0101.

Gallwch weld rhestr gyfredol o'n cŵn crwydr ar ein tudalen Facebook (gwerfan allanol).

Pan fydd y Warden Cŵn yn casglu ci crwydr byddant yn gwirio unrhyw goler a thag am fanylion cyswllt y perchennog, a byddant hefyd yn sganio'r ci i wirio os oes ganddo ficrosglodyn. Os nad oes unrhyw beth i adnabod y ci, bydd y warden yn mynd ag ef i genelau North Clwyd Animal Rescue (gwefan allanol).

Os oes gan y ci crwydr fanylion cyswllt ei berchnogion ar goler a thag neu ficrosglodyn, yna gellir ei ddychwelyd i'r perchnogion, am ffi statudol. Os yw'r perchennog yn gwrthod neu'n methu â thalu'r ffi, yna bydd y ci yn mynd i genelau, a bydd taliadau pellach ar gyfer cenelau a threuliau. Byddwn hefyd yn cyflwyno rhybudd statudol i’r perchnogion, ac os na hawliwyd y ci o fewn saith niwrnod, yna gall gael ei ail-gartrefu neu ei roi i lawr.

Taliadau Cŵn crwydr

Nid yw’r taliadau hyn yn gymwys ar gyfer TAW.

Casglu ci / cŵn crwydr heb ficrosglodyn, a dim cytundeb i’r ci gael microsglodyn, neu os oes gwybodaeth anghywir ar fanylion cyfredol y microsglodyn

  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 8am i 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener: £50.00
  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 5pm i 10pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener: £80.00
  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 10am i 10pm, Penwythnosau a Gwyliau’r Banc: £80.00

Casglu ci / cŵn crwydr sydd â microsglodyn yn barod

  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 8am i 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener: £40.00
  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 5pm i 10pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener: £70.00
  • O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 10am i 10pm, Penwythnosau a Gwyliau’r Banc: £70.00

Casglu ci am y tro cyntaf gyda choler a thag, neu ficrosglodyn, a’i ddychwelyd i’r perchennog. Perchennog yn cytuno i dalu’r warden. Ffi statudol yn unig.

O’ u darganfod yn crwydro yn Sir Ddinbych rhwng 8am i 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener: £25.00

Taliadau cynela

£10 y ci y dydd (codir tâl diwrnod llawn am unrhyw ran o ddiwrnod).