Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o covid

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau bod 101 disgybl ac un aelod o staff o Ysgol Crist y Gair, Y Rhyl yn hunan ynysu hyd at Hydref 29ain yn dilyn cadarnhad o achos o Covid 19 yn gysylltiedig â’r ysgol.   (Bydd y disgyblion hynny yn dychwelyd ar y 3ydd o Dachwedd gan fod y cyfnod hunan –ynysu yn dod i ben yng nghanol hanner tymor)

Yn y cyfamser, bydd 188 o ddisgyblion ac un aelod o staff o Ysgol Dinas Bran, Llangollen yn hunan-ynysu tan 23ain o Hydref yn dilyn cadarnhad o achos o Covid 19 yn gysylltiedig â’r ysgol.

Mae’r holl rieni a gwarcheidwaid wedi cael gwybod am hyn ac mae’r ysgolion a’r Awdurdod yn cydweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r ysgolion yn parhau ar agor i bawb arall ac maent yn  gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Lleol a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

Gofynnir i rieni/ gwarcheidwaid fod yn wyliadwrus am brif symptomau coronafeirws:

  • Peswch newydd neu gyson
  • Tymheredd uchel
  • Colli synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu, neu newid iddynt

Dylai'r rhai a gynghorir i hunan-ynysu archebu prawf coronafeirws os ydynt yn datblygu unrhyw un o'r symptomau hyn, hyd yn oed os ydynt yn ysgafn. Gellir archebu prawf drwy ffonio 119 neu ar-lein: www.llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

Mae hunan-ynysu yn golygu aros gartref, peidio â mynd y tu allan i ymarfer, i ymweld â siopau, ffrindiau a theulu neu fynd i unrhyw fan cyhoeddus arall. Peidiwch â gwahodd unrhyw un i’ch cartref.

Am wybodaeth bellach am y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu, ewch i: www.llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws


Cyhoeddwyd ar: 15 Hydref 2020