Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae prosiect yn mynd rhagddo i godi proffil darn o hanes Prestatyn

Mae prosiect yn mynd rhagddo i godi proffil darn o hanes Prestatyn.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhedeg prosiect adnewyddu ac ymgysylltu cymunedol ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn ar ben Melyd Avenue.

Daeth y baddonau’n hysbys am y tro cyntaf yn ystod y 1930au, pan gafodd ei ddarganfod yn dilyn gwaith cloddio.

Yna cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych.

Adeiladwyd y Baddondy yn tua 120 OC, yna’i ymestyn yn 150 OC.

Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau.

Gallai fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Dyma un o ‘drysorau cudd’ y dref yr hoffem ei warchod at y dyfodol er mwynhad cenedlaethau i ddod. Ariennir y prosiect gwych hwn gan Grant Henebion Cadw a Chronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd.

“Rydym yn ceisio codi proffil y Baddonau Rhufeinig, gan ei fod yn safle go anhysbys. Hoffem gynyddu niferoedd yr ymwelwyr â’r Baddonau ac ennyn diddordeb mewn hanes lleol.”

Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Gwaith i sefydlogi’r gwaith cerrig sydd wedi dod yn rhydd dros amser.
  • Gwaith ar y llwybr o amgylch y baddondy.
  • Paneli gwybodaeth newydd.
  • Creu border berlysiau.
  • Plannu blodau gwyllt.
  • Gweithdai celf gydag ysgolion lleol.
  • Diwrnod agored i’r cyhoedd i ddathlu cwblhau’r prosiect.
  • Cysylltiadau â sefydliadau lleol i hyrwyddo’r Baddondy.
  • Cynnydd hirdymor mewn gwybodaeth leol am y Baddondy, ac yn nifer yr ymwelwyr â’r safle.

Pan gafodd ei gloddio yn y 1980au, ymwelodd plant ysgol lleol â’r Baddondy. Hoffai’r Cyngor gysylltu â’r bobl a ymwelodd â’r safle yn y cyfnod hwnnw i drefnu iddyn nhw gael dod draw eto. Cysylltwch â Claudia Smith ar claudia.smith@denbighshire.gov.uk / 07785517398 os oeddech chi’n un o ymwelwyr gwreiddiol y Baddondy, os oes gennych chi grŵp a hoffai ymweld neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.


Cyhoeddwyd ar: 13 Hydref 2022