Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal adolygiad o brisiau Cerbydau Hacni ac yn gofyn am farn yn cyhoedd.
Mae’r Cyngor yn cynnig tabl ffioedd diwygiedig newydd ar gyfer Cerbydau Hacni a gaiff eu trwyddedu gan y Cyngor. Mae'r newidiadau arfaethedig yn dilyn argymhelliad i'w hadolygu gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mai 2022. Mae’r ffioedd diwygiedig yn cynnwys:
Tariff 1: Cyfradd safonol
Wedi'i gymhwyso i hurio rhwng 7.00am ac 11.00pm
- Cyfradd am y filltir cyntaf: £5.00
- Cyfradd am bob milltir ar ôl hynny: £2.50
- £3.75 ffi uchafswm am hyd at 880 llath
- 20p am bob 141 llath neu 25 eiliad ychwanegol
Tariff 2: Cyfradd ar gyfer Sul a'r Nos
Wedi'i gymhwyso i bob hurio ar ddydd Sul ac Llun i Wener rhwng 11.00pm a 7.00am
- Cyfradd am y filltir cyntaf: £6.20
- Cyfradd am bob milltir ar ôl hynny: £3.70
- £4.25 ffi uchafswm am hyd at 880 llath
- 30p am bob 141 llath neu 25 eiliad ychwanegol
Tariff 3: Cyfradd dwbl yn ystodd y dydd
Yn gymwys ar:
- Wyliau cyhoeddus cenedlaethol
- Rhwng 11.00pm ar 24ain o Ragfyr a 7.00am ar 27aoin o Ragfyr
- Rhwng 11.00pm ar 31ain o Ragfyr a 7.00am ar 1af o Ionawr.
- Cyfradd am y filltir cyntaf: £10.10
- Cyfradd am bob milltir ar ôl hynny: £5.00
- £7.50 ffi uchafswm am hyd at 880 llath
- 40p am bob 141 llath neu 25 eiliad ychwanegol
Ffioedd ychwanegol:
- Am bob teithiwr ychwanegol dors un: 50p
- Am bob anifail: 50p
- Baeddu’r cerbyd i’r graddau na ellir ei ddefnyddio i’w hurio: £100.00
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y cynnydd arfaethedig tan 11 Tachwedd 2022. Os ydych yn dymuno gwrthwynebu’r newidiadau a’r ffioedd arfaethedig, bydd yn rhaid i chi gyflwyno eich gwrthwynebiad, yn ysgifenedig i’r Adain Drwyddedu, Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych LL16 3RJ, drwy e-bost: trwyddedu@sirddinbych.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen arlein: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/previewcy/678