Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl: Craig Sparrow

Daeth perchnogion busnesau, gwleidyddion, grwpiau trydydd sector, elusennau, swyddogion y cyngor, cynrychiolwyr iechyd a mwy ynghyd i ddechrau llunio strategaeth gwerth £20 miliwn ar gyfer tref glan môr boblogaidd.

Cynhaliodd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl 'weithdy thematig' yng nghlwb rygbi'r dref, gan uno hyd at 40 o ffigurau blaenllaw a rhanddeiliaid i drafod meysydd ar gyfer buddsoddi a datblygu dros y degawd nesaf.

Yn eu plith roedd Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir Ddinbych, AS Gogledd Clwyd, Gill German ac AS Dyffryn Clwyd, Gareth Davies, Cyngor ar Bopeth, Willow Collective, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), Strategaeth Dinas y Rhyl, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Heddlu Gogledd Cymru, Clwb Hanes y Rhyl, Sir Ddinbych yn Gweithio a chynrychiolwyr o'r sectorau manwerthu, lletygarwch a thai.

Roedd pedwar pwnc dan drafodaeth: adfywio; y stryd fawr, treftadaeth a thrafnidiaeth; tai a diogelwch; iechyd, llesiant a chynhyrchiant a sgiliau gwaith; ac addysg, cyfle a chydlyniant.

Dan arweiniad Cyfarwyddwr a Chynghorydd Strategol Savills, Nick Bennett, nod y diwrnod oedd ystyried cyfleoedd a chadarnhau’r blaenoriaethau fydd yn gosod y sylfeini ar gyfer strategaeth adfywio Ein Rhyl/Our Rhyl sydd werth £20m er mwyn sbarduno nodau Llywodraeth y DU i arwain at dwf economaidd a chynaliadwyedd dros y 10 mlynedd nesaf.

“Mae’r cynllun adfywio ar gyfer pobl o bob oed yn y dref, felly mae’n bwysig – yn enwedig o ystyried bod poblogaeth y Rhyl yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol ac yn cynyddu – ein bod yn clywed pob llais,” meddai Nick.

“Mae’r cyllid yn £20m dros 10 mlynedd ond rydym yn gobeithio manteisio ar fwy drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat, ac yn y pen draw rhaid i ni benderfynu i ble mae’r buddsoddiad hwn yn mynd a sut mae’n cael ei wario, a dyna pam mae heddiw mor bwysig.

“Boed y blaenoriaethau’n addysg a sgiliau, iechyd a lles, tai, yr amgylchedd, trafnidiaeth, atal troseddu neu unrhyw nifer o themâu eraill, rhaid i ni lunio cynigion creadigol ac arloesol.

“Mae gennym groestoriad gwych o unigolion a sefydliadau yma i wneud hynny, felly rwy’n gyffrous i weld sut mae’r misoedd nesaf yn datblygu.”

Roedd yr AS Gill German yn cytuno, a dywedodd: “Rhaid i ni wneud y gorau o’r dref wych hon, ac i wneud hynny bydd mewnbwn pawb yma yn hanfodol.”

Ychwanegodd Gareth Davies AS: “Mae’r cyllid gan Lywodraeth y DU yn wych ond mae’n bwysig bod dull cydweithredol rhwng rhanddeiliaid yn yr ardal leol. Edrychaf ymlaen at y trafodaethau hyn.”

Trafodwyd ystod eang o syniadau a nodwyd targedau, yn enwedig cynnydd mewn mannau gwyrdd, cefnogaeth i fusnesau bach, tai, diogelwch strydoedd, blaenoriaethu iechyd “fel canlyniad i bob prosiect” a manteisio ar y promenâd a’r “traeth hardd” sydd “ymysg y gorau yng Ngogledd Cymru”.

Dywedodd Nadeem Ahmad, aelod o'r Bwrdd a pherchennog Jean Emporium: “Mae hen angen ar gynllun i wneud gwahaniaeth i'r dirwedd fanwerthu yn y stryd fawr a chanol y dref ac rydym am wella’r profiad i drigolion a thwristiaid. Mae’n rhaid i hyn weithio. Mae’n rhaid i ni gyflawni.”

Ychwanegodd Simon Jones o'r Kite Surf Café Bar: “Dw i wir yn gweld y Rhyl fel cyrchfan. Mae miloedd o gwsmeriaid yn dod atom ni bob wythnos yn yr haf. Mae gen i angerdd a chariad at y traeth; mae'n un o USPs mwyaf y dref.”

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd cadeirydd y Bwrdd, Craig Sparrow, ei fod yn “gam cyntaf gwych” tuag at greu “cynllun strategol priodol” fydd yn gwneud gwahaniaeth hirdymor am genedlaethau.

“Mae syniadau gwych wedi dod i’r amlwg fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn denu buddsoddiad, er mwyn i ni fedru troi'r £20m hwnnw'n £40m neu fwy a rhoi hwb i'r economi leol,” meddai. 

“Mae hon yn ardal sydd â chymaint o botensial, ac mae'r ysbryd hwnnw wedi'i ddal heddiw.”

Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl.


Cyhoeddwyd ar: 12 Mehefin 2025