Mae’r gwaith o osod yr arwyddion allanol bellach wedi'i gwblhau ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Mae'r arwyddion newydd hyn bellach yn addurno'r ddwy brif fynedfa ac ochrau'r adeilad.
Mae'r gosodiadau newydd yn cynnwys arwydd sydd wrth fynedfa'r Gogledd-orllewin, yn gwynebu’r prom, arwydd sydd ar ben mynedfa Stryd Sussex, a'r arwyddion sy'n gwynebu Stryd y Frenhines, sydd wrth ochr yr adeilad. Mae hefyd arwydd wedi'u peintio â llythrennau ar ochr yr adeilad, sy'n wynebu Stryd Sussex.
Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym ar y gosodiadau mewnol, yn barod ar gyfer agor Marchnad y Frenhines yn yr haf.
Mae'r ddau arwydd prif fynedfa wedi'u gwneud o lythrennau dur di-staen a fydd yn cael eu goleuo, ac yn cynnwys logo newydd Marchnad y Frenhines.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Arwydd Marchnad y Frenhines ydi’r peth cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei weld pan fyddan nhw’n dod at yr adeilad o unrhyw gyfeiriad. Roedd arnom ni eisiau i’r arwydd fod yn rhywbeth hawdd i'w adnabod, a dwi’n teimlo bod y llythrennau, y lliw a’r logo, yn cyflawni hynny.
Mae pethau’n echrau siapio yn y Farchnad ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y cyhoedd yn mynd heibio o dan yr arwyddion a drwy’r drysau yn yr haf.”
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Ltd:
“Rydym yn falch o fod rwan at y pwynt lle mae brand a hunaniaeth yr adeilad yn cael eu rhyddhau.
Rydym yn gweld hyn fel carreg filltir allweddol i baratoi'r adeilad i'w agor i'w ddefnyddio gan gymuned y Rhyl ac ymwelwyr y dref.”