Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gydnabod cyfraniad ac ymrwymiad menywod sy'n gweithio ar draws y Cyngor.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy gydnabod cyfraniad ac ymrwymiad menywod sy'n gweithio ar draws y Cyngor.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod ac mae llawer o sefydliadau'n defnyddio'r diwrnod hwn fel llwyfan i gydnabod cyflawniadau, ymrwymiad ac ymroddiad eu gweithlu benywaidd.

Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol: "Mae nifer o enghreifftiau gwych o fenywod wedi symud ymlaen yn eu gyrfaoedd o fewn y Cyngor. Rwy'n gyfarwyddwr ac mae pedair menyw ar ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth. Mae hynny'n cyfleu neges glir bod gan fenywod y sgiliau a'r gallu i gyflawni eu breuddwydion a'u nodau ac i gyrraedd swyddi uwch reolwyr o fewn yr awdurdod. Mae hyn hefyd yn dangos y dull cynhwysol o weithio ac mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle.

"Mae heddiw'n ddiwrnod am ddathlu menywod a'u cyflawniadau ac yn amser i fyfyrio ar y camau breision sydd wedi'u cymryd yn y sector cyhoeddus (a phreifat) o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle a thegwch i bawb."

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata Sir Ddinbych: "Rwyf wedi cael yr hyn a elwir yn yrfa 'portffolio' yn fawr iawn, ond mae'n debyg ei fod yn cael ei ddisgrifio'n well fel gyrfa 'rollercoaster', gan ei fod yn sicr wedi profi uchafbwyntiau ac isaf-bwyntiau.

"Rwy'n credu bod gyrfaoedd menywod yn rhy hawdd i'w chwalu gan ddigwyddiadau bywyd ac mae'n bwysig bod gan sefydliadau ddealltwriaeth lawn o'u heffaith. Drwy fy ngyrfa fy hun, y digwyddiadau bywyd yr wyf wedi'u profi, gan gynnwys rhianta (rollercoaster arall!), dyled, profedigaeth, mislif a chyfrifoldebau gofalu.

"Mae pob un ohonynt wedi effeithio ar fy ngwaith o bryd i'w gilydd, ond rwyf wedi bod yn lwcus o gael rheolwyr a chydweithwyr cefnogol sydd wedi gwerthfawrogi fy nghyfraniad ac wedi fy helpu i oresgyn yr heriau a ffynnu.

"Rwy'n gobeithio bod fy mhrofiadau wedi llywio fy natblygiad fel rheolwr fel bod pobl o'm cwmpas yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hannog gennyf."

Mae Katie Newe yn Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cleientiaid o fewn y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol. Dywedodd Katie: "Yn gynharach heddiw, ymwelais ag Awel y Dyffryn yn Ninbych. Roedd yn wych gweld y cynllun newydd ond hefyd roeddem i gyd yn fenywod o Gyngor Sir Ddinbych a Grŵp Cynefin, o amrywiaeth o rolau. Roedd yn wych cael treulio peth amser heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda chyd-fenywod proffesiynol a medrus yn gweithio yn ein sector."

"Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio yn Sir Ddinbych mewn sefyllfa lle gallaf arwain eraill a helpu i lunio polisi. Rwy'n ymdrechu i fod yn fodel rôl gadarnhaol ac yn fentor i fenywod eraill sydd am ddatblygu gyrfa o fewn yr awdurdod lleol."

Dywedodd Mel Evans, Prif Reolwr- Cyflogaeth Strategol: "Rwy'n falch o fod yn y sefyllfa yr wyf ynddi heddiw yn gweithio i sefydliad sy'n croesawu cydraddoldeb ochr yn ochr â'm cydweithwyr benywaidd sydd hefyd mewn swyddi uwch.

"Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi cyfle i fenywod a dynion ddathlu'r cyflawniadau a'r cynnydd a wnaed yn wyneb y rhwystrau niferus y mae menywod yn eu hwynebu.

"Dechreuais fy ngyrfa ym mhrif swyddfa Kwik Save ym Mhrestatyn oedd wedi ffafrio dynion nes i'r cyfan ddod i stop sydyn pan gafodd ei gau. Roeddwn i wedi bod yn cael trafferth jyglo bod yn fam i 2 blentyn bach ifanc a dilyn fy ngyrfa felly penderfynais gymryd toriad cyflog a gweithio fel cynorthwyydd gweinyddol rhan amser yn y Cyngor. Yr oedd hynny 23 mlynedd yn ôl ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl, buddsoddodd y cyngor yn uniongyrchol ynof a'm cefnogi i ennill cymhwyster proffesiynol mewn Rheoli Prosiectau.

"Mae gallu rheoli fy ngyrfa a fy mywyd teuluol wedi fy arwain i'r swydd sydd gennyf heddiw. Yn hanesyddol, nid wyf yn credu y byddai hynny wedi bod yn bosibl ac rwy'n hynod falch o'r ffaith fy mod bellach mewn sefyllfa i gefnogi ac annog menywod eraill i gael gwaith ac yn aml mewn gyrfaoedd efallai nad ydynt wedi meddwl amdano gan fod y gefnogaeth y gall Sir Ddinbych Sy'n Gweithio ei chynnig.”

 


Cyhoeddwyd ar: 08 Mawrth 2022