Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

1-4 East Parade

Mae ceisiadau ar gyfer Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi nawr wedi agor ar gyfer eiddo sydd wedi’u lleoli yng nghanol tref y Rhyl.

Nod y grant, sy’n cael ei ariannu drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yw helpu i adfywio eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol tref y Rhyl, a gwella blaen siopau busnesau.

Mae’r cynllun yn helpu i wella edrychiad blaen siopau eiddo presennol, er mwyn ail ddefnyddio gofod llawr masnachol gwag er defnydd buddiol, a newid defnydd eiddo lle bo’n briodol.

Mae effaith cyfran flaenorol y cyllid yn amlwg yn barod yng nghanol tref y Rhyl, gydag eiddo megis 1-4 East Parade (hen adeilad Woolworths), 32 Stryd Bodfor a Chanolfan White Rose wedi derbyn gwaith gwella yn sgil y cyllid.

Gall perchnogion a’r lesddeiliaid (rhaid i’r lesddeiliaid gael 7 mlynedd o leiaf yn weddill ar eu prydles) adeiladau cymwys o fewn canol tref y Rhyl wneud cais am grant o rhwng £5,000 a £50,000, gyda gofyniad o gyllid cyfatebol o 30%.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cyfle gwych i fusnesau cymwys sydd wedi’u lleoli yng nghanol tref y Rhyl wella edrychiad eiddo eu busnes.

Rydym wedi gweld enghreifftiau llwyddiannus o gyfran gyntaf y cyllid, gydag adeiladau amlwg yn y Rhyl yn cael trawsnewid ei edrychiad er gwell.

Yn ogystal â hyn, mae’r grant yn helpu perchnogion a lesddeiliaid sy’n dymuno gwneud defnydd o, ac ailddefnyddio gofodau gwag y maent yn berchen arnynt neu yn eu rhentu.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio , Jayne Bryant:

“Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu cymorth gwerthfawr i drefi megis y Rhyl, gan greu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer y bobl leol ac er mwyn cael strydoedd mawr sy’n ffynnu.

Mae gweithio gyda busnesau lleol i wella canol ein trefi yn elfen allweddol yn ein rhaglenni adfywio, ac mae’n wych gweld sut mae’r fenter yn dod â bywyd newydd i adeiladau segur.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych i gefnogi’r cynnig canol tref yn y Rhyl, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd busnesau a chymunedau yn elwa o’r buddsoddiad diweddaraf hwn.”

Ceir rhagor o fanylion am y cynllun, ynghyd â manylion ar sut i wneud cais yma.


Cyhoeddwyd ar: 07 Awst 2024