Mae ffigyrau twristiaeth Sir Ddinbych wedi cynyddu yn 2023 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae ffigyrau diweddaraf STEAM (Monitor Gweithgaredd Economaidd Twristiaeth Scarborough) yn dangos bod cyfanswm nifer yr ymwelwyr ar gyfer Sir Ddinbych yn 2023 wedi cyrraedd 6.39 miliwn, cynnydd o bron i 6% (5.9%) o gymharu â ffigyrau 2022.
Mae’r data hefyd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr dydd i’r sir yn 2023 yn 4.72 miliwn, newid o 7.5% o gymharu â 2022.
Cyfanswm effaith economaidd twristiaeth oedd £736.05 miliwn, cynnydd o 17.1% o’r flwyddyn flaenorol.
Mae STEAM yn broses o fodelu effaith economaidd twristiaeth sy’n mesur twristiaeth o’r gwaelod i fyny, drwy ddefnyddio data lleol y cyflenwyr a pherfformiad twristiaeth a chasglu data arolwg ymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae gan Sir Ddinbych ardaloedd arfordirol trawiadol ac ardaloedd gwledig hardd sy’n golygu bod cynnig cyflawn i dwristiaid, sy’n teithio o bell ac agos i ymweld â’n sir hyfryd.
Unwaith eto, rydym yn croesawu’r cynnydd yn y ffigyrau twristiaeth ar gyfer Sir Ddinbych flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n dangos pwysigrwydd twristiaeth i’r economi leol, a’r adferiad a fu yn y diwydiant twristiaeth yn dilyn sawl blwyddyn anodd.”