Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Daeth staff y Cyngor ynghyd gyda Bryson’s Recycling a Bws Benthyg i edrych ar yr economi gylchol o ran ailddefnyddio ac atgyweirio ar draws Sir Ddinbych.

Mae rhaglen wedi helpu Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid i gynllunio dulliau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Dros y chwe mis diwethaf, mae’r Cyngor wedi cymryd rhan yn y rhaglen Design Differently gan y Cyngor Dylunio.

Daeth staff y Cyngor ynghyd gyda Bryson’s Recycling a Bws Benthyg i edrych ar yr economi gylchol o ran ailddefnyddio ac atgyweirio ar draws Sir Ddinbych. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar Bws Benthyg a sut y gall cymunedau sirol gwahanol elwa ohono.

Roedd cydweithio â chwmnïau buddiannau cymunedol, yn gyfle i’r Cyngor rannu sgiliau a dysgu o safbwyntiau gwahanol. Cafodd staff y Cyngor a phartneriaid eu hannog i ddefnyddio ymchwil ynghylch rhwystrau rhag ymddygiad benthyca neu ddefnyddio cynaliadwy, er mwyn arwain ymyriadau o ran defnyddio Bws Benthyg.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gweithio mewn partneriaeth yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu wrth addasu i newid yn yr hinsawdd. Roeddem yn hynod ddiolchgar o gael y cyfle hwn gan y Cyngor Dylunio, sydd wedi ein helpu wrth symud ymlaen fel Cyngor, i weithio’n agosach â’n cymunedau er mwyn mynd i’r afael â materion hinsawdd yn well gyda’n gilydd.”

Roedd y rhaglen Design Differently yn cynnwys tri gweithdy a oedd yn arwain cyfranogwyr trwy’r prosesau dylunio a’u cymhwyso ar gyfer prosiectau presennol neu brosiectau yn y dyfodol.

Cefnogwyd hyn gan staff y Cyngor Dylunio, Emily Whyman a Darren Evans, a helpodd i drefnu a mynychu Sioe Deithiol Ailddefnyddio yn Rhuthun. Derbyniodd y mynychwyr gefnogaeth hefyd gan PA Consulting.


Cyhoeddwyd ar: 22 Mawrth 2023