Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn barod i agor Gorsaf VIBE y Rhyl y mis hwn, sef gofod cymunedol newydd sydd wedi’i ddylunio i gefnogi pobl i symud ymlaen yn eu bywydau, gan ddechrau gyda’u lles.

Yn agor ar 29 Mai, datblygwyd Gorsaf VIBE fel lle i bobl ymgynnull unrhyw bryd ar eu siwrnai tuag at gyflogaeth. Os yw rhywun yn dymuno gwella eu lles, ail fagu hyder, cysylltu ag eraill, neu ddechrau archwilio cyfleoedd, mae’r gofod yn berffaith ar gyfer cyfarfod â phobl ar eu taith.

Wedi’i leoli ger Gorsaf Rheilffordd y Rhyl, mae Gorsaf VIBE wedi cael ei siapio’n fwriadol fel ‘gorsaf’ lle gall pobl stopio, cael cefnogaeth, ac yna cymryd eu camau nesaf ymlaen. Mae’n cydnabod bod y siwrnai tuag at gyflogaeth, ar gyfer sawl un, yn cychwyn llawer cynt na’r broses o chwilio am swydd, mae’n aml yn cychwyn gyda hyder, sefydlogrwydd a lles. Bydd y gofod yn cynnig cymysgedd o weithgareddau lleol, cyfleoedd hyfforddi, cefnogaeth un i un, a ffyrdd anffurfiol i gysylltu gydag eraill.

Nodwedd allweddol o Orsaf VIBE yw ei rôl fel Safle Integredig Rhithwir ar gyfer Cyflogaeth, gan ddod â gwasanaethau ynghyd mewn un lle i ddarparu cefnogaeth gydlynol, hygyrch i’r gymuned.

Anogir partneriaid a sefydliadau i gymryd mwy o ran, ac ymgysylltu gyda Gorsaf VIBE, boed drwy ddarparu sesiynau, cynnig gwasanaethau, neu gydweithio gydag eraill i gynnig cefnogaeth i bobl leol yn fwy effeithiol. Dyluniwyd y gofod i esblygu, gydag integreiddiad a chydweithio yn greiddiol.

Bydd y digwydd lansio ar 29 Mai yn rhoi cyfle i westeion a’r cyhoedd i archwilio’r gofod, cwrdd â phartneriaid a dysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael.

Estynnir gwahoddiad i breswylwyr, partneriaid a sefydliadau cymunedol i fynychu’r agoriad cyhoeddus o 1:00pm i 3:30pm a phrofi sut gall Gorsaf VIBE gefnogi pobl i gymryd eu camau nesaf.

Meddai Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:

“Nid yw’r siwrnai tuag at gyfleoedd yn rhwydd bob amser, ac i sawl un, mae’n dechrau gyda lles, a theimlo’n barod i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Crëwyd Gorsaf VIBE fel lle i bobl ymgynnull ar unrhyw gam, i gael mynediad i’r gefnogaeth gywir, a dechrau symud ymlaen mewn ffordd addas iddynt hwy.

Drwy uno lles, hyfforddiant a chefnogaeth mewn un lle, rydym yn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu gyda gwasanaethau, magu hyder, a dangos cynnydd yn ôl eu pwysau eu hunain.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae Gorsaf VIBE yn cynrychioli buddsoddiad pwysig mewn pobl a lle. Mae cefnogi unigolion i wella eu lles a chynnydd yn allweddol i feithrin cymunedau cryfach, mwy cadarn

Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi twf economaidd hirdymor drwy sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch o fewn ein cymunedau”.

Manylion y Digwyddiad

Lleoliad: Gorsaf VIBE, 40 Stryd Bodfor, y Rhyl LL18 1AT
Dyddiad: 29 Mai 2026
Agoriad Cyhoeddus: 1:00pm – 3:30pm

Mae cefnogaeth un i un Sir Ddinbych yn Gweithio am ddim, ac ar gael i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n dymuno cymorth i symud ymlaen.

Gall preswylwyr ddysgu mwy ar ein gwefan.  

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a Chysylltu â Gwaith.


Cyhoeddwyd ar: 20 Mai 2026