Yn dilyn ymweliad monitro diweddar gan Estyn ym mis Mehefin, mae Ysgol Uwchradd Dinbych bellach wedi’i thynnu o fesurau arbennig.
Mae Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Estyn, wedi cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn yr argymhellion ac felly nid yw angen bod mewn categori statudol ar gyfer ymyrraeth mwyach.
Yn ystod yr ymweliad monitro, roedd Estyn wedi nodi bod yr ysgol wedi dangos cynnydd da yn erbyn yr argymhellion a wnaed gan Estyn yn 2016. Mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:
- Mae disgyblion yn ddiwyd ac yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth yn briodol.
- Mae’r ysgol wedi llwyddo i adfywio ei ddull i wobrwyo a dathlu ymddygiad cadarnhaol.
- Mae athrawon yn ffurfio perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda’u dosbarthiadau.
- Mae’r ysgol wedi cryfhau ei strategaethau i wella sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.
- Mae’r ysgol wedi cryfhau ei darpariaeth yn briodol ar gyfer y Gymraeg.
- Mae arweinwyr ar bob lefel yn defnyddio ystod addas o dystiolaeth ymarferol i werthuso eu gwaith.
- Mae gan arweinwyr ar bob lefel farn mwy cywir o gryfderau’r ysgol a meysydd ar gyfer gwella.
- Mae’r Pennaeth wedi darparu cyfeiriad strategol clir. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar forâl staff a helpu athrawon ac arweinwyr i gynyddu cyflymder gwelliant yr ysgol eleni.
Dywedodd y Pennaeth, Mr Glen Williams a benodwyd ym mis Medi 2022 ac wedi arwain yr ysgol drwy’r flwyddyn academaidd hon:
“Mae pawb yn Ysgol Uwchradd Dinbych yn gweithio’n galed iawn i sicrhau fel ysgol ein bod bob amser yn gwella ac yn darparu’r addysg a’r cyfleoedd gorau y gallwn ni.
Mae’r arolwg diweddar wedi gweld effaith y datblygiadau sy’n digwydd yn yr ysgol a bellach mae gennym blatfform gwych i allu parhau gyda thwf ein hysgol a gwneud beth sy’n iawn i’n dysgwyr.
Mae’r gefnogaeth mae’r ysgol wedi’i derbyn gan y gymuned a’r awdurdod lleol wedi’n helpu ni i wneud y newidiadau oedd eu hangen ac mae’n dangos ffocws pawb i sicrhau y bydd ein dysgwyr yn gadael Ysgol Uwchradd Dinbych i lwyddo yn eu dyfodol. Hefyd, hoffem ddiolch i holl staff a dysgwyr yn yr ysgol am wneud yr ysgol yn le arbennig ac unigryw”.
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ddinbych:
“Rwy’n falch iawn o glywed hyn ac mae’n dyst i ymroddiad a gwaith caled y pennaeth a staff eleni. Dyma newyddion bendigedig ar ddechrau gwyliau’r haf, da iawn bawb”.
Ychwanegodd Ms Kate Sutherland, Cadeirydd Corff Llywodraethu, Ysgol Uwchradd Dinbych:
“Ar ran y Corff Llywodraethu, rwy’n cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy’n cyfrannu at gymuned Ysgol Uwchradd Dinbych ar yr adeg positif iawn hwn. Mae’r staff wedi gweithio’n ddiflino ac mae gwelliannau’r ysgol wedi eu cydnabod o’r diwedd. Mae’r disgyblion yn ased i’r ysgol ac i Ddinbych, maent yn haeddu canmoliaeth enfawr. Mae’r ysgol yn galon y gymuned ac rydym yn benderfynol i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn”.