Mae partneriaeth wedi diogelu coeden brin iawn a gafodd ei darganfod yn Llangollen, fel bod modd i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Mae disgyblion o Ysgol Dinas Bran, Ysgol y Gwernant ac Ysgol Bryn Collen wedi bod yn dysgu am Erddinen Wen Llangollen, coeden brin iawn, sy’n bodoli mewn dau leoliad yn unig yn y byd.
Yn 2017, bu i brosiect a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sŵ Caer a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gomisiynu arolwg manwl ar gyfer pennu poblogaeth y rhywogaeth hon, yn ogystal â’i chyflwr.
Dim ond cyfanswm o 315 o goed a gofnodwyd, cafodd 307 eu darganfod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Creigiau Eglwyseg, ac wyth coeden ychwanegol yn Swydd Amwythig.
Casglwyd aeron yn ofalus hefyd, cyn mynd â nhw i Sŵ Caer, lle bu botanegwyr medrus yn tyfu’r planhigion am nifer o flynyddoedd, gan ailgreu amgylchedd unigryw Llangollen mewn meithrinfa blanhigion y tu ôl i’r llenni.
Erbyn hyn, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae 20 o’r coed prin wedi’u hailblannu mewn sawl lleoliad o amgylch Llangollen, ac fe blannwyd un yn Ninas Bran y mis hwn. Cefnogwyd y gwaith o’u hailblannu gan ddisgyblion ysgol lleol o Ysgol Dinas Bran a gwirfoddolwyr.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Rydym mor ffodus o’r amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt a geir yn Sir Ddinbych a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae’r ffaith bod bron i boblogaeth fyd-eang gyfan y rhywogaeth hon i’w chael yma yn rhyfeddol ac yn rhywbeth i’w drysori.”
“O ystyried y mannau anhygyrch y mae’r coed hyn yn tyfu, mae’n hawdd anghofio pwysigrwydd y rhywogaeth hon, ac nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.
“Trwy eu plannu gyda phlant ysgol, bydd gan genedlaethau’r dyfodol well gwerthfawrogiad o’r hyn sydd ar garreg ein drws, a bydd pobl nawr yn gallu gweld a gwerthfawrogi Gerddinen Wen Llangollen, a hithau wedi’i phlannu yn y dref a’r cyffiniau.”
Meddai Richard May, Swyddog yr Amgylchedd CNC: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio ar y prosiect cadarnhaol hwn gyda’n partneriaid yn Sŵ Caer a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
“Bellach, mae gennym archwiliad cyfredol o Erddinen Wen Llangollen, sydd mewn perygl, a gwell syniad o ran iechyd y boblogaeth a’r gwaith rheoli cadwraeth sydd ei angen.
“Mae’n wych meddwl mai dim ond mewn dau le yn y byd y gellir darganfod y goeden hon, ac rwy’n mwynhau gweld y coed hyn yn cael eu hailblannu yng Nghastell Dinas Bran.”
Ychwanegodd Richard Hewitt, Rheolwr Tîm y Feithrinfa yn Sŵ Caer: “Mae Sŵ Caer yn adnabyddus am ei gwaith achub rhywogaethau gydag amrywiaeth o anifeiliaid, ond o bosibl nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ein bod ni hefyd wedi ymrwymo i achub trysorau botanegol y byd. Mae ein tîm wedi ymroi mwy na chwe blynedd i feithrin y rhywogaeth hon yn ein meithrinfa, gan ddechrau gyda dim ond hedyn, a’u tyfu nhw nes eu bod yn goed ysblennydd fel y rhain. Mae’n deimlad gwych i’w gweld nhw’n mynd o nerth i nerth yn eu cartref hanesyddol yng Ngogledd Cymru.
“Heb gymorth y bartneriaeth hon, gallai’r goeden arbennig hon fod wedi diflannu am byth."
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â Sŵ Caer
- Mae Sŵ Caer (www.chesterzoo.org) yn elusen cadwraeth ac addysg sy’n arwain yn fyd-eang ac wedi ymrwymo i atal difodiant a chodi ymwybyddiaeth am y prif heriau cadwraeth ac amgylcheddol.
- Mae safle 128 acer y sŵ yng Nghaer yn gartref i dros 37,000 o anifeiliaid a mwy na 500 o rywogaethau, a dyma ble mae’r gwaith achub rhywogaethau yn digwydd.
- Fel elusen nid er elw, mae’r sŵ yn cynnwys popeth yn ei genhadaeth o ran cadwraeth, yma yn y DU ac ar draws y byd.
- Mae’n gweithio gyda mwy na 3,000 o rywogaethau yn fyd-eang, gan gynnwys 140 o raglenni bridio cadwraeth anifeiliaid rhyngwladol, gan sicrhau bod rhywogaethau mewn perygl o ddifodiant yn goroesi. Mae’n gartref hefyd i bum casgliad cenedlaethol o blanhigion, sy’n cynnwys mwy na 1,000 o rywogaethau.
- Caiff arbenigwyr yn y sŵ eu cydnabod gan lywodraethau a chyrff anllywodraethol ledled y byd fel arweinwyr o fewn y gymuned gadwraeth fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae’r sŵ yn achub rhywogaethau ar ran llywodraethau Bermwda, Sbaen a Phortiwgal, ymysg eraill.
- Mae’r sŵ yn gweithio gyda thros 100 o bartneriaid mewn mwy nag 20 o wledydd, i achub bywyd gwyllt sydd dan fygythiad ac adfer cynefinoedd, gan gynnwys orangwtangiaid yng nghoedwigoedd glaw Borneo, eliffantod a theigrod yng nglaswelltiroedd India, lemyriaid a llyffantod yng nghoedwigoedd Madagasgar, pysgod prin yn llynnoedd Mecsico a llu o rywogaethau yma yn y DU.
- Mae’r sŵ yn dylanwadu ar bolisi yn y DU ac yn rhyngwladol, ac yn ymgysylltu â llywodraethau ar draws y byd er mwyn mynd ati i atal yr argyfwng bioamrywiaeth.
- Mae’r miliynau o ymwelwyr sy’n ymweld â’r sŵ yn flynyddol a’i chymunedau enfawr ar-lein yn rhan o’r clytwaith addysgiadol, gwyddonol a chadwraethol, sy’n eu grymuso i fod yn rhan o ddatrysiadau ar gyfer bywyd gwyllt a chreu dyfodol lle gall natur oroesi a ffynnu.
- Mae Sŵ Caer yn frwdfrydig tu hwnt am gadwraeth – o’i gofal am anifeiliaid a phlanhigion, i’w darganfyddiadau gwyddonol, ei gwaith polisi a’i rôl hanfodol o ran ysbrydoli ac addysgu pobl am y byd naturiol ac effaith bodau dynol arno – gan feithrin a datblygu cadwraethwyr ym mhob un ohonom.