Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae eira wedi disgyn ar draws llawer o Sir Ddinbych dros nos a disgwylir iddo barhau trwy gydol heddiw. Dyma'r sefyllfa ddiweddaraf yn y sir.

Ffyrdd: Mae pob llwybr wedi cael ei drin ddwywaith dros nos ac mae timau graeanu ar ddyletswydd ac yn patrolio pob llwybr heddiw.

Rydym yn profi rhai anawsterau ar y llwybrau canlynol ar draws y rhwydwaith:

Cau Ffyrdd:

Bwlch yr Oernant, Llangollen

Pob llwybr i Moel Famau

Mae'r ffyrdd hyn yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd ac mae modd eu pasio gyda gofal:

Bwlch Nant y Garth

Rhydtalog

Llandegla

Clwyd Gate (Rhuthun o'r Wyddgrug)

Gwasanaethau bysiau: Gofynnir i deithwyr sy'n ceisio defnyddio gwasanaethau bysiau y bore yma gynllunio ar gyfer rhywfaint o aflonyddwch, oherwydd eira.

Mae'r gwasanaeth X51 rhwng Dinbych a Wrecsam wedi'i atal i'r de o Ruthun ar hyn o bryd.

Mae'r holl wasanaethau rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug ar hyn o bryd yn defnyddio prif ffordd yr A494 ac nid ydynt yn dargyfeirio drwy bentrefi.

Ni fydd y gwasanaeth 192 Melin y Wig i Langollen yn gweithredu.

Casglu Gwastraff: Oherwydd y tywydd bydd tarfu ar wasanaethau casglu gwastraff yn ne'r sir. Darperir diweddariadau pellach drwy gydol y dydd.

Ysgolion: Ysgol Bro Famau, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Tremeirchion, Ysgol Bodfari, Ysgol Pant Pastynog, Ysgol Betws Gwerful Goch, Ysgol Plas Brondyffryn ac Ysgol Bro Cinmeirch ar gau i blant y mae'n ofynnol iddynt fod ar safle'r ysgol. Nid yw dysgu ar-lein yn cael ei effeithio ac mae'n parhau ar gyfer pob ysgol.

Tai: Mae canolfan gyswllt tai'r Cyngor yn dal ar agor ond ar hyn o bryd dim ond ymateb i alwadau brys ac acrgyfwng.


Cyhoeddwyd ar: 08 Ionawr 2021