Mae gwaith ymgysylltu ar fin dechrau mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer arbrawf man caeedig ar gyfer afancod mewn gwarchodfa natur sirol newydd.
Bydd ymgynghoriad pedair wythnos gyda chymunedau lleol i Warchodfa Natur Green Gates, Llanelwy, yn dechrau heddiw (Dydd Llun, 15 Medi) ynglŷn â chynlluniau i letya grŵp teulu o afancod Ewrasiaidd o fewn man caeedig diogel 24 erw ar y safle fel rhan o brosiect 5 mlynedd.
Mae’r cynlluniau hyn yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a byddant yn darparu’r prosiect man caeedig cyntaf ar gyfer afancod yng Ngogledd Cymru.
Ar un adeg roedd afancod yn rhywogaeth frodorol yng Nghymru, cyn iddynt gael eu hela i'r pwynt o ddiflannu ym Mhrydain ac Ewrop am eu crwyn gwerthfawr, castorewm a chig. Ar ôl sawl achos o ailgyflwyno’r rhywogaeth yn llwyddiannus, mae yna bellach 1500 o afancod yn byw ym Mhrydain - yn yr Alban a Lloegr yn bennaf.
Yn yr Alban a Lloegr, mae’r Afanc Ewrasiaidd bellach yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop, dan Atodlen 2 o’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2019.
Ar hyn o bryd mae poblogaeth fach o Afancod Ewrasiaidd yn bresennol yng Nghymru, mewn mannau caeedig ac yn y gwyllt. Ar 26 Medi 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi symud tuag at ailgyflwyno, a hynny dan reolaeth, afancod yng Nghymru.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd bioamrywiaeth i “gynnal a gwella bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau” dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), 2016.
Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw creu ‘Sir Ddinbych Mwy Gwyrdd’ drwy wella a chynnal ein hasedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth, a chynyddu’r cynefinoedd sydd ar gael i fywyd gwyllt.
Eglurodd Joel Walley, Swyddog Arweiniol - Ecoleg a Bioamrywiaeth: “Cyfeirir atynt yn aml fel ‘peiranwyr ecosystemau’, ac mae llawer o dystiolaeth y gall afancod gynyddu bioamrywiaeth o fewn eu hamgylchedd drwy eu hymddygiadau fforio ac adeiladu argaeau. Credwn y bydd ychwanegu afancod at fan caeedig diogel yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn creu cynefin gwlyptir deinamig a chyfoethog o ran rhywogaethau, gan ein helpu i gyflawni ein targedau bioamrywiaeth.
“Drwy’r arbrawf cynlluniedig hwn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o afancod a’u hecoleg, a’r buddion posibl y gallant eu cyflwyno i amgylchedd naturiol Cymru, yn ogystal ag arddangos rhai o’r technegau lliniaru y gellir eu defnyddio os bydd unrhyw effeithiau posibl yn codi o ganlyniad i weithgarwch afancod. Oherwydd lleoliad a dyluniad gofalus y man caeedig, nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw effeithiau negyddol oddi ar y safle.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r cread posibl o arbrawf man caeedig ar gyfer afancod yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn cynrychioli cam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych. Mae’r arbrawf, a fyddai’n cael ei reoli’n ofalus, yn cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i adferiad ecolegol, ac yn darparu cyfleoedd i drigolion lleol gael gweld a dysgu am y rhywogaeth allweddol hon drostynt eu hunain.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda’r cymunedau lleol. Mae’n ymgynghoriad cyhoeddus a bydd modd i unrhyw un ymateb iddo. Diben yr ymgynghoriad yw nodi unrhyw effeithiau posibl o’r arbrawf man caeedig arfaethedig, a byddwn hefyd yn cysylltu â’r holl dirfeddianwyr cyfagos o amgylch Green Gates fel rhan o’r ymarfer hwn cyn cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am drwydded ar gyfer yr arbrawf man caeedig ar gyfer afancod. Bydd CNC yn penderfynu a ddylid rhoi trwydded.
Er mwyn cael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein, ewch i - https://cy.cadnantplanning.co.uk/beaver-project-afancod