Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo ar gyfer prosiect Adeiladau’r Frenhines yng nghanol tref y Rhyl a’r nod yw dechrau cam cyntaf y cynllun ar y safle ddechrau 2022 ar ôl i’r broses ddymchwel bresennol gael ei gwblhau ar y safle.

Bydd y cam cyntaf yn cynnwys adeiladu neuadd farchnad dan do newydd, gofod digwyddiadau ac ardal wedi’i dirlunio y tu allan ynghyd ag ailwampio Siambrau’r Frenhines – yr adeilad brics coch ar Stryd Sussex.

Mae’r cyllid ar gyfer y datblygiad yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, a Wynne Construction wedi’u penodi i wneud y gwaith adeiladu trwy Fframwaith Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru.

Mae Wynne wedi cyflawni prosiectau eraill yn llwyddiannus yn y dref fel y gwesty Travelodge.

Mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i gymeradwyo ar gyfer camau pellach i’r cynllun sy’n cynnwys gofod masnachol a swyddfeydd newydd a datblygu rhandai preswyl newydd sy’n edrych dros y môr. Mae manylion y camau hyn ar gyfer y dyfodol yn parhau i gael eu datblygu ond y gobaith yw bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n reit sydyn ar ôl cwblhau’r cam cyntaf y flwyddyn nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Rydym yn falch o fod wedi derbyn caniatâd cynllunio sy’n ein galluogi ni i symud ymlaen gyda cham cyntaf y prosiect adfywio sylweddol hwn.

“Mae’r safle rŵan gam yn nes at gael ei drawsnewid yn ddatblygiad allweddol sydd wedi’i gwblhau yng nghanol tref y Rhyl.

“Mae Adeiladau’r Frenhines wedi darparu cyfleoedd o ran swyddi yn barod i breswylwyr lleol yn ystod y cam adeiladu ac yn parhau i wneud hynny pan fydd y gwaith wedi’i orffen, gan elwa Sir Ddinbych gyfan.

“Dyma’r garreg filltir fwyaf hyd yma ar gyfer Adeiladau’r Frenhines, y prosiect catalydd allweddol yn rhaglen adfywio’r Rhyl ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd parhaus.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx


Cyhoeddwyd ar: 08 Medi 2021