Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Heddiw (Dydd Sadwrn), bu Cyngor yr Esgyniad yn ymgynnull ym Mhalas St James i gyhoeddi esgyniad y Brenin Charles III yn ffurfiol a chyhoeddwyd y proclamasiwn mewn lleoliadau ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Darllenir y proclamasiwn ar gyfer Sir Seremonïol Clwyd am 1pm ddydd Sul, 11 Medi 2022, y tu allan i Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.

Traddodir y proclamasiwn gan Uchel Siryf Clwyd, a bydd yr Arglwydd Raglaw a phobl bwysig o bob un o’r pedwar cyngor o fewn hen ffiniau Clwyd yn ymuno.

Gan ei fod yn agored i’r cyhoedd, y mae croeso i breswylwyr Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam fod yn bresennol i fod yn dystion i’r foment hanesyddol hon.

Yn dilyn darllen proclamasiwn Clwyd, cynhelir digwyddiadau lleol er mwyn clywed y darlleniad am 2.30pm yn y lleoliadau a restrir isod, sydd hefyd yn agored i’r cyhoedd.

  • Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych (y grisiau cefn)
  • Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF
  • Neuadd y Dref, Wrecsam (balconi).

Cyhoeddwyd ar: 09 Medi 2022