Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog trigolion y sir, neu’r rhai sy’n gweithio yn y sir i ddweud eu dweud am y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod.

Mae arolwg rhanddeiliaid wedi'i lansio lle mae'n gofyn i bobl raddio ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor, yn ogystal ag adborth ar sut mae pobl yn teimlo am Sir Ddinbych a'u hardal leol.

 

I gymryd rhan a dweud eich dweud, ewch i: sgwrs sir.sirddinbych.gov.uk

 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb: “Mae’r arolwg rhanddeiliaid yn un o nifer o ffyrdd o gasglu barn pobl am sut rydym yn gweithio fel Cyngor, yn ogystal â barn pobl am fywyd yn Sir Ddinbych ac yn eu hardal leol.

“Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i’n helpu i wella gwasanaethau sy’n bwysig i drigolion, yn ogystal â monitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol”.

Bydd yr arolwg ar-lein ar agor tan 27 Chwefror, 2023 a bydd copïau papur ar gael yn Llyfrgelloedd a Siopau Un Alwad Sir Ddinbych.

I ddarllen Cynllun Corfforaethol cyfredol y Cyngor, ewch i dudalen y Cynllun.


Cyhoeddwyd ar: 10 Tachwedd 2022