Mae tenantiaid preifat sydd ag ôl—dyledion rhent yn cael eu hannog i wneud cais am y grant caledi.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweinyddu Grant Caledi Llywodraeth Cymru i denantiaid preifat sydd ag ôl-ddyledion rhent o dros wyth wythnos rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021 oherwydd pandemig Covid-19.
Mae’r grant, sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i landlordiaid, yn cyd-fynd â llacio mesurau Covid-19 a fydd yn cynnwys galluogi landlordiaid i droi tenantiaid allan o’u tai o 30 Mehefin ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Bwriad y grant yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref neu gael eu troi allan o’u tai o ganlyniad i golli incwm oherwydd y pandemig.
“Mae’r pandemig wedi cae effaith ar bob rhan o’n cymdeithas a byddwn yn annog unrhyw denantiaid preifat cymwys i wneud cais am y grant hwn."
Bydd y grant ar gael i rentwyr nad ydynt yn derbyn budd-daliadau yn ymwneud â thai ac o bosibl tenantiaid sydd wedi bod ar ffyrlo, sydd wedi gweld gostyngiad yn eu gwaith, neu sydd wedi bod yn hawlio tâl salwch statudol tra roeddent yn sâl gyda Covid-19.
Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu dogfennau a datganiad gan y landlord a fydd yn cael eu hadolygu cyn i daliad gael ei wneud yn uniongyrchol i'r landlord.
Gall unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais am y grant ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/grant-caledi-i-denantiaid