Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

planhigfa goed

Mae safle newydd yn bwriadu helpu i egino gwaith Cyngor Sir Ddinbych i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.

Mae’r Cyngor wedi sefydlu planhigfa goed leol ar ffarm Green Gates ar gyrion Llanelwy.

Nod y safle newydd yw cynhyrchu 5,000 o goed a 5,000 o blanhigion blodau gwyllt cynhenid y flwyddyn, gyda’r gobaith o ymestyn hyn yn y dyfodol.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.

Ar hyd a lled Sir Ddinbych, mae bellach bron i 60 o safleoedd prosiect dolydd blodau gwyllt yn cynnwys lleiniau ymyl priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, ac mae mwy o safleoedd ar y gweill y gwanwyn hwn.

Mae’r safleoedd hyn, ynghyd â’r 11 o warchodfeydd natur ar ochr y ffordd, yn gyfystyr â maint 30 o gaeau pêl-droed o lastir a reolir fel dolydd blodau gwyllt cynhenid.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn hybu lles pryfaid sy’n gynhenid i Sir Ddinbych.

Mae’r Cyngor hefyd wedi sefydlu prosiect i greu pedwar coetir newydd ar draws Sir Ddinbych ac mae’n bwriadu plannu bron i 5,000 o goed cyn mis Mawrth.

Mae’r holl hadau a thoriadau yn dod o blanhigion yn Sir Ddinbych , sy’n golygu eu bod wedi addasu’n llawer gwell i’n hinsawdd ac amodau na phlanhigion o rannau eraill y DU. Drwy ddewis rhai lleol, mae hefyd yn lleihau’r perygl o gyflwyno clefydau a phla estron i’r ardal ac yn cadw geneteg leol ac amrywiadau rhanbarthol o fewn rhywogaethau planhigion.

Bydd y planhigion a’r coed a dyfir yn y blanhigfa yn cael eu defnyddio i roi hwb i fioamrywiaeth yn y sir, drwy ddarparu mwy o flodau gwyllt i’n peillwyr a mwy o goed i’n hadar a bywyd gwyllt arall.

Mae rhai yn cael eu defnyddio i wella tir y cyngor ar gyfer bywyd gwyllt, megis plannu blodau gwyllt ar leiniau ymyl ffordd, ble mae torri rheolaidd wedi arwain at lai o flodau gwyllt.

Drwy’r prosiect hwn, mae’r cyngor yn torri llai ar y glaswellt ar rai lleiniau ymyl ffordd gan eu gwneud yn fwy addas i flodau gwyllt.

Yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth ar dir y cyngor, bydd y coed a’r blodau gwyllt ar gael i grwpiau a thirfeddianwyr lleol sy’n awyddus i annog bywyd gwyllt ar eu tir.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Rydym yn falch o gael cyfleuster mor bwysig yn Llanelwy, sy’n ein helpu ni gyflawni ein nod o gynnal a gwella bioamrywiaeth ar hyd a lled y sir.

“Bydd y blanhigfa goed hefyd yn cael ei defnyddio i roi hwb i rai rhywogaethau llai cyffredin. Ar hyn o bryd, mae’r blanhigfa yn tyfu eithin pêr, y griafolen a’r aethnen ddu, coed sydd wedi dirywio’n fawr iawn dros y ganrif ddiwethaf.

“Mae Llanelwy yn ffodus bod grŵp o’r aethnen ddu yno’n barod, ond dim ond ychydig iawn sydd ar ôl mewn llawer o ardaloedd, ac yn enwedig rhai benyw, gan eu bod yn cael eu torri’n aml iawn oherwydd eu bod yn cynhyrchu llawer o hadau blewog.

“Os ydych yn dirfeddiannwr lleol ac os oes gennych aethnen ddu ar eich tir, byddem yn awyddus i ddod i gymryd toriadau ohoni i’w tyfu ymlaen. Neu, os oes gennych ddiddordeb mewn tyfu aethnen ddu ar eich tir, cysylltwch â ni.”

Wrth i’r gwaith gynyddu yn y blanhigfa goed, mae’r Cyngor yn awyddus i bobl leol gymryd rhan fel gwirfoddolwyr. Byddai gwaith gwirfoddol yn cynnwys potio a chynnal a chadw’r planhigion, archwilio’r caeau o gwmpas wrth iddynt ddatblygu a helpu mewn gweithgareddau plannu o bosibl. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn biodiversity@denbighshire.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am waith Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor, dilynwch y ddolen 


Cyhoeddwyd ar: 20 Ionawr 2022