Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) Gweundir Llandegla,

Mae rhaglen o waith wedi helpu i adfer ardal o fawndir yn Sir Ddinbych.

Llwyddodd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i gael nawdd drwy Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru i gwblhau prosiectau adfer mawndiroedd ar draws yr ardal y mae’r corff yn gyfrifol amdani.

Mae gwasgariad y mawn yn yr ardal yn achlysurol ac yn dameidiog ac mae llawer ohono bellach mewn cyflwr anffafriol ac yn rhyddhau carbon i’r atmosffer oherwydd bod y gweundiroedd yn hanesyddol wedi’u draenio ar gyfer amaeth. coed coniffer sy’n hunan-hadu’n sychu’r gweundiroedd ac erydiad difrifol o ganlyniad i ddefnydd anghyfreithlon gan yrwyr cerbydau oddi ar y ffordd.

Mae gwaith yn awr wedi’i wneud yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) Gweundir Llandegla, ger yr A5104 i helpu i adfer yr ardal i’w chyflwr naturiol. Mae’r Llwyddodd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd wedi gwneud gwaith yn Llyn Ochin, Gogledd y Berwyn a Gweundir Rhiwabon.

Cyflogwyd contractwyr arbenigol gyda pheiriannau cloddio â thraciau llydan iawn i gau ffosydd gyda mawn er mwyn cynnal a chodi lefel y dŵr ac i dorri a chael gwared ar goed sy’n coloneiddio’r gweundiroedd.

Mae traciau llydan y peirannau cloddio’n golygu nad ydynt yn pwyso gymaint ar y ddaear wrth deithio dros y gweundir gyda hynny yn ei dro yn osgoi difrod anfwriadol.

Eglurodd Jack Parry, Swyddog Maes y Gweundir: “Mae gwaith arwyddocaol wedi’i wneud yn SSSI Gweundir Llandegla lle gosodwyd byndiau cyfuchlinol gan ddefnyddio mawn.

“Bynciau cyfuchlinol yw byndiau sy’n ymestyn ar draws y gors ac yn cael eu gosod i ddal ac atal dŵr rhag llifo o’r gweundir, maen nhw’n torri ar draws ac y blocio unrhyw ddraeniau neu graciau arwynebol y gallai dŵr redeg drwyddynt ar yr un pryd a chaniatáu i’r dŵr gronni ar yr wyneb gan godi’r lefelau a darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt.

“Wrth i’r byndiau a’r pyllau ddechrau datblygu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf bydd planhigion fel migwyn yn dechrau coloneiddio a storio dŵr ac yn y pen draw yn ffurfio ac yn storio mwy o fawn a charbon.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad: “Dros y blynyddoedd rydym wedi colli llawer o’r cynefin hwn a bydd y gwaith pwysig yma’n helpu i wrthdroi’r tueddiad hwn gan roi hwb i natur a bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar y cynefinoedd hyn i oroesi a ffynnu.

Unwaith eto eleni mae tîm yr Llwyddodd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi llwyddo i sicrhau cyllid drwy’r Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd i gynnal rhagor o arolygon o a llunio cynlluniau adfer i sicrhau bod cymaint â phosibl o garbon yn cael ei storio.

 


Cyhoeddwyd ar: 02 Mai 2024