Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych wedi cael eu dos cyntaf o’r brechiad coronafeirws.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae preswylwyr a staff Cysgod y Gaer yng Nghorwen i gyd wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn, tra bod staff a phreswylwyr Dolwen wedi dechrau cael eu dos cyntaf.

Gweinyddwyd y brechiadau i breswylwyr gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu cartrefi gofal yr wythnos hon.

Gwahoddwyd staff i archebu apwyntiadau yn Venue Cymru dros y bythefnos ddiwethaf er mwyn derbyn eu brechiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, aelod arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Hoffwn ddiolch i’r holl staff gofal yn Sir Ddinbych sydd wedi gweithio’n rhyfeddol o galed i gadw pobl yn ddiogel o Covid-19. Mae’r brechiad yn offeryn sy’n cael ei groesawu’n fawr i ymladd y clefyd hwn, fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gyd fod yn wyliadwrus a dilyn y cyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed ar ôl i ni gael y brechiad.

“Trwy gydol y pandemig rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau fod staff a phreswylwyr yn ein cartrefi gofal yn cadw’n ddiogel ac mae’n wych gweld y staff a’r preswylwyr yn ein cartrefi gofal sy’n cael eu rhedeg gan y Sir yn cael eu brechiadau o’r dosau cyntaf.

“Gyda chyfraddau haint yn codi a straen newydd o’r feirws, mae hi bellach yn amser critigol yn ystod y pandemig ac mae’n bwysig fod pawb yn dilyn yr arweiniad i helpu diogelu’r mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.

“Mae’n cynnwys dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol, gweithio o gartref os yn bosib, i aros adref a pheidio teithio heb esgus rhesymol.”

Meddai Sian Owen, Rheolwr Cartref Gofal Cysgod Y Gaer: “Mae ein preswylwyr a’n staff yn falch iawn o gael y brechiad. Mae’n gadarnhaol iawn ac yn gam sy’n cael ei groesawu ar gyfer ein holl breswylwyr a staff. Teimlwn fod yna llygedyn o oleuni ac mae’n rhoi hwb i ysbryd staff.”


Cyhoeddwyd ar: 14 Ionawr 2021