Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Cynhaliwyd digwyddiad ail-agor Carchar Rhuthun yn swyddogol heddiw yn dilyn dwy flynedd o waith adfer ar ôl y llifogydd.

Trefnwyd y digwyddiad i ddathlu’r holl waith adfer sydd wedi cael ei wneud yn y safle hanesyddol, gan gynnwys cell newydd, yn arbennig ar gyfer rhannu stori’r carcharorion a gafodd eu hanfon i Awstralia o Garchar Rhuthun.

Cafodd ymwelwyr eu cyfarch gan staff oedd wedi gwisgo i fyny mewn gwisgoedd traddodiadol a’u croesawu gyda chacennau bach a phaneidiau cyn i gynghorwyr lleol gyflwyno areithiau i’r ymwelwyr.

Yn dilyn yr areithiau cynigwyd taith i’r ymwelwyr o amgylch y carchar ar ei newydd wedd. Darparwyd canllawiau sain wrth i’r daith ddechrau ar yr islawr a pharhau i fyny’r grisiau i’r prif floc o gelloedd lle'r oedd Coch Bach y Bala yn byw cyn iddo ddianc allan o’r carchar drwy gloddio twll yn y wal gyda llwy ym 1913.

Daeth y daith i ben yn yr iard sydd wedi cael ei ddatblygu’n ddiweddar i ymwelwyr gael gwell golwg o’r tiroedd hanesyddol, a thu allan i gell Williams Hughes sef yr unig ŵr erioed i gael ei grogi yng Ngharchar Rhuthun ym 1903.

Mae’r Carchar yn agored drwy’r tymor, hyd at 30 Medi. Mae’n agor yn ddyddiol (ar wahân i ddydd Mawrth) o 10:30am tan 5pm, gyda’r olaf am 4pm.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych cael pawb yma heddiw i ddathlu ail-agor Carchar Rhuthun wedi dwy flynedd o waith adfer. Mae’n rhan bwysig o hanes cyfoethog y dref, ac er gwaetha’r tywydd roedd hi’n braf gweld bobl leol yn mwynhau’r ychwanegiadau newydd sydd wir yn werth ymweld â nhw.”


Cyhoeddwyd ar: 24 Ebrill 2023