Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn cael eu hysbysu o newidiadau i’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn Sir Ddinbych yn dilyn gwaith cydweithredol i gadw mwyafrif y cyfleusterau yn y sir ar agor.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, diolch i gefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Cafodd y cynigion eu datblygu pan nad oedd yr arian a dderbyniwyd gan y Cyngor wedi bod yn cyd-fynd â’r pwysau ariannol a chost gynyddol darparu gwasanaethau, yn arbennig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg. Golygai hyn bod llai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, megis toiledau cyhoeddus.

Er bod y Cyngor yn cydnabod eu pwysigrwydd, mae toiledau cyhoeddus yn wasanaeth anstatudol, ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu. Fodd bynnag, gweithiodd y Cyngor gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i gydweithio ar fodel cynaliadwy i ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosibl. Mae’r model hwn yn cynnwys cyfraniadau ariannol uniongyrchol gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Yn dilyn y gwaith hwn, mae newidiadau i ffioedd ar gyfer y toiledau, gyda chyflwyniad systemau talu/mynediad digyswllt yn dechrau ym Mawrth, gwaith adnewyddu toiledau a chau tri chyfleuster ar draws Sir Ddinbych. Dyma’r newidiadau:

  • O 1 Ebrill bydd ffi mynediad o 50c i doiledau Ffordd Llys Nant a Nova ym Mhrestatyn. Bydd cyfleusterau Traeth Barkby ym Mhrestatyn yn derbyn gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod yr haf. Cyn dechrau’r gwaith bydd mynediad i doiledau Traeth Barkby yn parhau i fod am ddim, bydd cyfleusterau dros dro ar gael pan fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau’r gwaith bydd ffi o 50c yn cael ei gyflwyno ar y safle.Ni fydd y toiledau yng ngorsaf fysiau a gorsaf drenau Prestatyn bellach ar gael.
  • Bydd gan doiledau yn Neuadd y Dref y Rhyl, Pentref Plant y Rhyl, Arena Digwyddiadau a Gerddi Botaneg y Rhyl ffi mynediad o 40c. Bydd cyfleusterau Old Golf Road y Rhyl yn derbyn gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod yr haf. Cyn dechrau’r gwaith bydd mynediad i’r toiledau hyn yn parhau i fod am ddim, bydd cyfleusterau dros dro ar gael pan fydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau’r gwaith bydd ffi o 40c yn cael ei gyflwyno ar y safle.
  • Bydd ffi mynediad o £1 ar gyfer toiledau Princes Street Rhuddlan yn dilyn adnewyddu’r cyfleusterau dros yr haf, tra bydd y cyfleuster hwn ar gau bydd cyfleusterau dros dro ar gael.
  • Bydd ffi mynediad o £1 i gyfleusterau toiledau Llanelwy o 1 Ebrill.
  • Bydd ffi mynediad o £1 i gyfleusterau toiledau Stryd y Farchnad a Pharc Glan yr Afon Llangollen o 1 Ebrill.
  • Bydd gwaith adnewyddu yn digwydd yng nghyfleusterau Cae Ddôl Rhuthun dros y misoedd nesaf. Bydd cyfleusterau dros dro ar gael tra bydd y cyfleuster ar gau.
  • Bydd toiledau Stryd y Farchnad Rhuthun yn cau o 31 Mawrth a bydd y cyfleusterau toiledau yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych o fewn ardal dderbynfa’r adeilad ar gael i’r cyhoedd rhwng 9.00am a 5.00pm (Dydd Llun i Ddydd Gwener).
  • Bydd cyfleusterau toiledau Ward y Ffatri Dinbych yn cau ar 31 Mawrth.
  • Bydd cyfleusterau toiledau Rhaeadr Dyserth yn cau o 31 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu hegni cadarnhaol a chydweithrediad sydd wedi cefnogi pawb i gyrraedd y sefyllfa hon lle gallwn gadw mwyafrif ein toiledau cyhoeddus ar agor. Hoffwn ddiolch hefyd i breswylwyr ac ymwelwyr am eu cefnogaeth ac amynedd wrth i’r gwaith adnewyddu ddigwydd yn rhai o’r safleoedd.”

Disgwylir i’r gwaith o gyflwyno systemau digyswllt yn safleoedd Llangollen, y Rhyl, Prestatyn a Llanelwy gymryd rhwng dau a tri diwrnod, yn dibynnu ar y tywydd.

Bydd y cyfleusterau hyn yn parhau ar agor yn ystod y gwaith, oni bai am NOVA, lle bydd cyfleusterau toiledau dros dro yn cael eu darparu am gyfnod o bedwar diwrnod yn sgil graddfa’r gwaith sydd ei angen ar y safle.

Darperir rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chyfnodau'r gwaith adnewyddu ar gyfer rhai o'r cyfleusterau a restrir drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor.

 

 


Cyhoeddwyd ar: 16 Mawrth 2026