Mae disgwyl i waith gychwyn ar sefydlu Cynllun Peilot ar Wefru Cerbydau Trydan i’r Cyhoedd.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid grant gwerth £57,400 gan Swyddfa Llywodraeth y DU i Gerbydau Di-Allyriadau gyda chefnogaeth gan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, i gefnogi mesurau i sefydlu Cynllun Peilot Gwefru Cerbydau Trydan i’r Cyhoedd.
Bydd y cynllun peilot yn darparu pwyntiau gwefru cyflym i’r cyhoedd eu defnyddio mewn wyth maes parcio cyhoeddus yn Sir Ddinbych.
Bydd mannau gwefru cyhoeddus yn cael eu gosod yn:
- Maes Parcio Fern Avenue, Prestatyn.
- Maes Parcio Ward y Ffatri, Dinbych
- Maes Parcio’r Lawnt Fowlio / Stryd Fawr Isaf, Llanelwy
- Maes Parcio Heol y Farchnad, Llangollen
- Maes Parcio’r Pafiliwn, Y Pafiliwn Cenedlaethol, Llangollen
- Maes Parcio Cae Ddol, Iard Crispin, Stryd Clwyd, Rhuthun
- Maes Parcio’r Ganolfan Grefftau, Ffordd y Parc, Rhuthun
- Maes Parcio Ffordd Morley, Y Rhyl
Disgwylir y bydd gwaith ar y cynllun peilot wedi ei gwblhau erbyn dechrau haf 2022.
Mae meysydd parcio’r sir wedi’u dewis gan ddefnyddio ystod o feini prawf yn cynnwys lleoliad a hygyrchedd ac maen nhw’n cynnwys cymysgedd o lwybrau allweddol a meysydd parcio sy’n agos at eiddo preswyl sydd heb fynediad at barcio oddi ar y stryd.
Bydd y mannau gwefru’n cael eu gosod er mwyn helpu preswylwyr i newid i ddefnyddio cerbydau trydan, lle nad oedd ganddyn nhw fynediad at gyfleusterau gwefru cyn hyn.
Mae’r prosiect yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Rydym yn falch o weld y gwaith gosod yn dechrau ar gyfer y prosiect pwysig hwn. Bydd y pwyntiau gwefru hyn yn ein helpu gyda’n gwaith newid hinsawdd a byddan nhw hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y cartrefi cyfagos sydd heb gyfleusterau gwefru oddi ar y stryd.