Mae nythfa sy’n amddiffyn aderyn prin yn barod i dderbyn aelodau newydd o Affrica.
Mae’r gwaith wedi’i gwblhau i baratoi Nythfa Môr-wenoliaid Bach Twyni Gronant gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill.
Mae’r safle, sydd wedi croesawu’r adar yr holl ffordd o arfordir gorllewinol Affrica am dros ugain mlynedd, yn barod i ofalu am yr anifeiliaid, a hefyd i helpu i addysgu ymwelwyr i’r ardal.
Codwyd ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km ar hyd y traeth i warchod yr adar rhag ymosodiadau ar y tir. Bydd y ddwy ffens yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan adar sy’n caniatáu i bobl wylio’r nythfa o bellter diogel, hefyd wedi cael eu paratoi at y tymor.
Y llynedd, cofnodwyd 166 o barau bridio a chyfanswm o 158 o gywion bach, a oedd ychydig yn fwy na nifer y cywion a gafwyd yn nhymor 2023.
Ac yn 2024 fe welsom hefyd ddau gyw cambig yn cael eu magu’n llwyddiannus yng Ngronant am y tro cyntaf erioed.
Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Rydym eisoes wedi gweld y môr-wenoliaid bach yn dechrau cyrraedd yma, ac rydym yn barod i’w gwarchod a’u cefnogi drwy gydol y tymor nythu hwn. Fyddai dim o’r hyn rydym yn ei wneud yma yn bosibl heb gefnogaeth y gwirfoddolwyr sy’n ein helpu.”
Ychwanegodd: “Mae wardeniaid ar y safle erbyn hyn, yn gweithio o’r ganolfan ymwelwyr. Yn ogystal â gwarchod yr adar, byddant hefyd ar gael i siarad ag ymwelwyr a chasglu gwybodaeth am y nythfa eleni.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Ers mwy nag ugain mlynedd, mae timau Cefn Gwlad, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, wedi bod wrthi’n ddiwyd yn gwarchod a chynnal nythfa sy’n hollbwysig i hybu poblogaethau’r Môr-wenoliaid Bach yn y dyfodol. Gall pawb fod yn eithriadol o falch o’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gynnal y nythfa fywiog hon yn Nhwyni Gronant.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’r nythfa a phrosiectau arfordirol eraill, cysylltwch â claudia.smith@denbighshire.gov.uk