Ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Ddinbych yn ddiweddar â swyddfeydd y Cyngor yn Rhuthun i gwrdd â Phrif Weithredwr y Cyngor, lle gwnaethant rannu eu huchelgeisiau, eu cyflawniadau a’u gweledigaeth flaengar ar gyfer pobl ifanc ledled y sir.
Rhoddodd yr ymweliad gyfle i gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid gyflwyno eu gwaith hyd yma – gan gynnwys ymgysylltu â channoedd o bobl ifanc, cydweithio rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru, a phrosiectau arloesol megis podlediadau a digwyddiadau digidol sy’n rhoi llais i bobl ifanc.
Yn ystod y cyfarfod, siaradodd yr aelodau’n angerddol am eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys cryfhau cyfranogiad pobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau, gwella cyfathrebu gyda phobl ifanc, a chefnogi datblygiad Strategaeth Ieuenctid newydd.
Amlygodd y drafodaeth hefyd ymrwymiad y Cyngor Ieuenctid i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolog i faterion allweddol megis adfywio, trafnidiaeth, gwasanaethau iechyd ac ymgysylltiad democrataidd. Gofynnon nhw hefyd i’r Prif Weithredwr sut y gallent ei chefnogi gyda’r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud wrth symud ymlaen.
Dywedodd Helen White, Prif Weithredwr:
"Roedd hi’n fraint wirioneddol cwrdd ag aelodau’r Cyngor Ieuenctid a chlywed yn uniongyrchol am eu gwaith a’u huchelgeisiau. Maent yn grŵp ysbrydoledig o bobl ifanc, yn llawn egni, mewnwelediad a syniadau. Mae eu hangerdd dros wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau yn amlwg, ac maent eisoes yn dangos rhinweddau arweinwyr y dyfodol. Rydym yn ymrwymedig i barhau i weithio’n agos gyda nhw i helpu i lunio’r Sir Ddinbych yr ydym oll eisiau ei gweld."
Pwysleisiodd y Cyngor Ieuenctid eu dymuniad i weithio mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr ac aelodau etholedig i sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc yn cael eu hymgorffori mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Mae’r ymweliad yn nodi cam pwysig arall wrth gryfhau’r berthynas rhwng y Cyngor Ieuenctid ac arweinyddiaeth y Cyngor, gan gefnogi uchelgais ar y cyd i rymuso pobl ifanc ac adeiladu dyfodol cryfach, mwy cynhwysol i Sir Ddinbych.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei ddarparu ar gyfer pobl ifanc Sir Ddinbych ar ein gwefan.