Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae gwarchodfa natur yn y Rhyl yn barod i agor brigau’r coed i ddenu bywyd gwyllt adeiniog i gartrefi newydd.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi bod yn gosod blychau adar ac ystlumod newydd yn y berllan gymunedol ar ochr ddeheuol Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield.

Mae’r gwaith ailddatblygu wedi helpu i gysylltu hen berllan gymunedol a phwll â’r prif safle. Mae’r gwaith ailddatblygu wedi cynnwys creu llwybr newydd, clirio prysgwydd, gosod ffensys newydd a chodi pont bren i gysylltu’r ddwy ardal.

Mae’r bont yn cysylltu â llwybr cylchol o amgylch y pwll ac mae’r cyrsiau dŵr wedi’u clirio i annog llygod pengrwn y dŵr i’r safle, gan helpu i wella bioamrywiaeth.

Gyda chefnogaeth Natur Er Budd Iechyd, mae’r grwp wedi agor drysau tri blwch adar yn ddiweddar, yn ogystal â bocs ystlumod yn y berllan.

Mae blychau ystlumod yn bethau defnyddiol i ddarparu safle nythu diogel i ystlumod, gan gefnogi poblogaethau lleol a, gyda nifer yr adar coetir yn dirywio, mae’r blychau bach ychwanegol yn mynd i ddarparu amgylchedd mwy diogel i rywogaethau lleol.

Mae’r blychau ar uchder yn ychwanegol at y blychau ar lefel y tir sydd wedi’u gosod i gefnogi draenogod a phryfed y warchodfa.

Meddai’r Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr sydd wedi ein helpu ni i osod y cartrefi pwysig yma ar gyfer ystlumod ac adar gan fod arnom ni angen cefnogi’r anifeiliaid hyn i atal dirywiad yn eu niferoedd – ac mae bioamrywiaeth y berllan yn ein caniatáu ni i wneud hynny.

“Rydym ni hefyd wedi gosod camera ar yr ochr ac rydym ni eisoes wedi gweld sawl rhywogaeth o adar yma, ac felly bydd y cartrefi yma yn eu cefnogi nhw.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae’n braf gweld prosiect Pwll Brickfield yn parhau i dyfu ac estyn help llaw i fywyd gwyllt. Pob clod i’r gwirfoddolwyr a’r staff cefn gwlad am barhau i wneud y safle hwn yn ased fioamrywiaeth bwysig i’r warchodfa natur.”

 


Cyhoeddwyd ar: 27 Mehefin 2023