Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Grwp o 13 o bobl yn sefyll mewn ystafell gyda baneri tu ôl iddyn nhw

Heddiw, bu Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, yn ymweld â phrosiect Tŷ Pride yn y Rhyl, sy’n cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Tŷ Pride yw’r unig brosiect byw â chymorth sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru ac mae’n bartneriaeth arloesol rhwng Cyngor Sir Ddinbych, yr elusen ddigartref Llamau a’r elusen Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, a gynrychiolir gan ei dîm arbenigol, Viva LHDTC+.

Lansiwyd y prosiect yn haf 2019 a chroesawyd y trigolion cyntaf ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno ar ôl i ymchwil ddangos bod pobl ifanc yn y gymuned LHDTC+ yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan ddigartrefedd.

Roedd yr adroddiad ‘Out on the Streets’ gan End Youth Homelessness Cymru yn tynnu sylw at y gwendidau cynyddol y mae pobl ifanc LHDTC + yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae’r rhain yn cynnwys cael eu gwrthod gan eu teulu, profiad cynyddol o gam-drin, chwalfa teuluol, a chael eu difrïo. Mae'r rhain yn eu tro yn cyfrannu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at risg uwch o brofi digartrefedd ac iechyd meddwl gwael.

Dywedodd Emma Evans, Pennaeth Cynorthwyol Cyflenwi Gwasanaethau a Sicrhau Ansawdd, sy’n gyfrifol am Tŷ Pride, “Mae hwn yn fan diogel, anfeirniadol a chynhwysol i bobl ifanc sydd wedi’u gwneud yn ddigartref neu sydd wedi’u bygwth gan ddigartrefedd sydd hefyd yn LHDTC+. Yn Nhŷ Pride, mae preswylwyr yn dechrau rhaglen o sgiliau bywyd dwys ymhlith cymuned o gyfoedion sy’n gefnogol a derbyniol a sy’n deall yr heriau, y stigma, a’r gwahaniaethu y maen nhw wedi’i wynebu. Hyd yn hyn, mae bron i 50 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru wedi’u cyfeirio at Tŷ Pride, sy’n dangos maint y galw am y math hwn o wasanaeth.”

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru: “Rydym am wneud Cymru’r wlad fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi cynhwysiant, ac mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi’i ganmol fel ‘enghraifft o arfer da wrth lunio polisïau hawliau dynol’ gan y Cenhedloedd Unedig.

“O fewn y Cynllun, rydym wedi amlinellu ein gweledigaeth o sicrhau bod pobl LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd yn teimlo bod gwasanaethau’n cynnwys eu hanghenion penodol a bod cymorth sy’n hawdd ei ddeall yn hygyrch. Mae Tŷ Pride yn enghraifft wych o ble mae Llywodraeth Cymru, drwy ein Cronfa Arloesi Digartrefedd Ieuenctid, wedi cefnogi datblygiad gwasanaethau o’r fath.

“Ledled Cymru, rydym yn buddsoddi mwy na £210m mewn gwasanaethau atal digartrefedd eleni yn unig, gan gynnwys parhau i fuddsoddi dros £3.1m yn y Gronfa Arloesi Digartrefedd Ieuenctid. Edrychaf ymlaen at rannu’r gwerthoedd sydd wedi helpu i lunio Tŷ Pride gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd wedi’u harfogi i ymgysylltu’n sensitif â phobl LHDTC+.”

Lansiwyd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror eleni ac mae’n rhan o’n Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai a Chymunedau, “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hynod falch o’i gysylltiad â Tŷ Pride. Gwyddom fod bod yn ddigartref yn brofiad pryderus a llawn straen ac mae Tŷ Pride yn arwain y ffordd o ran cefnogi pobl ifanc LHDTC+ sy’n agored i niwed yn y Sir. Mae cael cyfleuster pwrpasol sy’n gweithio i ymgysylltu â’r bobl ifanc hyn i adeiladu dyfodol gwell yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i sicrhau Sir Ddinbych decach, diogel a mwy cyfartal.”

Dywedodd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Cabinet Cyngor Sir Ddinbych dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb, “Un o nodau allweddol y Cyngor yw lleihau anghydraddoldebau a sicrhau bod pobl o gefndiroedd amrywiol yn cael eu clywed ac yn llywio penderfyniadau. Mae gweld sut mae pobl ifanc LHDTC+ ifanc yn cael eu cefnogi ac yn ffynnu yn Nhŷ Pride yn ysbrydoledig, a hoffwn ddiolch i’r tîm am eu holl waith caled. Mae hyn wir yn enghraifft o arfer rhagorol ac yn dyst i ba mor effeithiol yw gweithio mewn partneriaeth.”

Ers i’r prosiect agor gyntaf, mae partneriaeth Tŷ Pride wedi gallu cefnogi deg o bobl ifanc. Mae pedwar yn byw'n annibynnol ac wedi cynnal hyn am rhwng pedwar a chwe mis. Maen nhw i gyd yn ffynnu yn eu cartrefi newydd. Mae tri yn dal i fyw yn y prosiect ac mae tri wedi dychwelyd i fyw gyda'u teuluoedd.

 


Cyhoeddwyd ar: 14 Medi 2023