Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae trigolion yn cael eu sicrhau nad yw Cyngor Sir Ddinbych wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o ‘Little Venice; o fewn Adeiladau’r Frenhines, a bydd yn parhau i gadw elfennau hanesyddol yr Adeilad mewn un darn.

Ers i’r adeilad ddod yn eiddo i’r Cyngor yn 2019, ni ddaethpwyd o hyn i unrhyw dystiolaeth o ‘Little Venice’ ac nid wnaeth y perchnogion blaenorol a oedd yn berchen yr adeilad am nifer o flynyddoedd, ddod o hyd i unrhyw weddillion neu dystiolaeth o’r atyniad chwaith.

Yn sgil diffyg cynnal a chadw o dan berchnogaeth flaenorol, mae mwyafrif Adeiladau’r Frenhines tu hwnt i atgyweiriad economaidd, felly mae’r cyngor bellach yn cyflawni gwaith dymchwel gyda phartneriaid y datblygiad Wye Valley, i adfer y safle. Dechreuodd y gwaith ar 25 Ionawr a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod yr haf.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Ar ôl archwiliadau trylwyr ac oherwydd difrod sylweddol, bu'n rhaid i ni ddechrau dymchwel Adeiladau'r Frenhines i gyd ar wahân i Siambrau’r Frenhines ar Stryd Sussex.

"Rydym yn gweithio gyda chontractwyr i achub yr ychydig eitemau hanesyddol sy'n dal i fodoli yn yr adeiladau, fodd bynnag, ers i’r adeiladau ddod i’n heiddo, mae wedi dod yn glir bod rhai eitemau tu hwnt i atgyweiriad.

"Rydym yn parchu hanes Adeilad y Frenhines a byddwn yn parhau i gadw cymaint o'r adeiladau ag y gallwn drwy gydol y broses o ddatblygu'r prosiect catalydd allweddol hwn o fewn rhaglen Adfywio ehangach Y Rhyl. Mae'r adeiladau'n chwarae rhan hanfodol o fudd i'r economi ledled Sir Ddinbych ac rwy'n falch bod y gwaith yn caniatáu iddo barhau fel rhan o ddyfodol Y Rhyl.

Mae cynlluniau wedi cael eu llunio i gadw cymaint â phosibl o eitemau wrth adnewyddu’r safle, gan gynnwys cadw rhannau o’r to yn y Theatr ac ym Marchnad y Frenhines, rhan gyflawn o’r balwstradau o’r lledlawr, yn ogystal â rhan o lawr sbring neuadd ddawns ym Marchnad y Frenhines.

Mae hanesydd y Rhyl, Colin Jones wedi bod yn hysbysu’r Cyngor am hanes yr adeilad ar ôl blynyddoedd o astudio.

Dywedodd Colin: “O fy astudiaethau, gallaf gadarnhau bod ‘Little Venice’ yn arddangosfa yn islawr Palas y Frenhines, a oedd yn seiliedig ar yr arddangosfa mwy yn Llundain, ond nid oedd unrhyw beth ar lefel is, megis ‘afon danddaearol’.

“Arhosodd yr arddangosfa ‘Little Venice’ yn yr islawr am ddau neu dri thymor, ac yna fe’i tynnwyd i wneud lle i fersiwn llai o’r Constantinople (Istanbwl) a oedd wedi hen adael cyn y tân ym 1907.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl


Cyhoeddwyd ar: 23 Chwefror 2021