Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymryd cam pwysig iawn yn y gwaith i adnewyddu Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl, sef penodi contractwr i ddechrau’r gwaith dymchwel.

Bydd Wye Valley Demolition yn dechrau gweithio ar y safle o Ionawr 25 ymlaen i ddymchwel adeiladau anniogel ac i dynnu unrhyw asbestos sydd ar ôl.

Mae’r contractwr wedi gweithio efo’r Cyngor o’r blaen, gan gynnwys dymchwel adeiladau ar Heol y Frenhines.

Ar ôl i’r Cyngor feddiannu Adeiladau’r Frenhines cynhaliwyd nifer o asesiadau a oedd yn dangos yn glir fod angen dymchwel rhan fawr o’r safle oherwydd difrod adeileddol yn sgil tywydd gwael a diffyg cynnal a chadw dros y blynyddoedd.

Bydd y siambr eiconig fodd bynnag yn cael ei chadw a’i hailwampio.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Bydd dechrau’r gwaith dymchwel yn gam mawr arall i adfywio’r safle.

“Roedd ar y Cyngor eisiau cadw cymaint o'r adeiladau â phosibl, yn enwedig waliau Marchnad y Frenhines a'i nenfwd cain, ond yn anffodus ers i ni ddechrau gweithio ar yr adeiladau mae’n amlwg nad oes modd eu hadfer.”

Bydd y gwaith dymchwel yn ein galluogi ni i gynllunio i drawsnewid yr adeilad yn fannau manwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, swyddfa a gofod preswyl.

Ychwanegodd y Cyng. Hugh Evans OBE: “Mae adfywio’r Rhyl yn brosiect hirdymor a fydd yn dod â budd i economi Sir Ddinbych ac mae Adeiladau’r Frenhines yn rhan hanfodol o’r prosiect hwnnw.”

Mae’r safle hwn yn cynnwys amryw o adeiladau mawr o fewn ardal boblog, felly i sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y gwaith dymchwel bydd y Cyngor yn cau’r llwybrau troed ar hyd Rhodfa'r Gorllewin a Heol y Frenhines ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Dw i'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru yn golygu bod modd bwrw ’mlaen â cham nesaf y gwaith o ailddatblygu Adeiladau'r Frenhines. Mae hon yn enghraifft wych o'r sector cyhoeddus yn cydweithio â'i bartneriaid er budd yr ardal, a bydd yn helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant pwysig. Mae gan y prosiect botensial enfawr i roi hwb economaidd hanfodol i'r dref."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Mae adfywio adeilad eiconig y Frenhines yn gam pwysig yn y gwaith o roi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl.

“Dyma lle y cyhoeddais i raglen Trawsnewid Trefi ym mis Ionawr 2020, ac mae fy ymrwymiad yn parhau i’r gwaith o drawsnewid adeiladau fel adeilad y Frenhines yn asedau cymunedol a fydd yn dod â bywyd newydd i drefi Cymru ac yn denu mwy o ymwelwyr. Mae’n braf gweld y gwaith yn mynd yn ei flaen.”

Mi fydd un lôn ar gau dros dro ar hyd Heol y Frenhines, ac mi fydd maes parcio Heol y Frenhines hefyd yn cau am gyfnod.

Yn ogystal, bydd yn rhaid i ni atal parcio ar y stryd wrth ymyl Adeiladau’r Frenhines, ar hyd Rhodfa'r Gorllewin a Heol y Frenhines, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ardal wrth ymyl y safle yn wag i ddymchwel yr adeiladau yn ddiogel.

Rhagwelir y bydd y gwaith yn cymryd hyd at 6 mis ac, yn dilyn hynny, y gobaith yw dechrau datblygu’r safle ehangach, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Bydd cais cynllunio’r cam nesaf yn cael ei gyflwyno gyda hyn.


Cyhoeddwyd ar: 11 Ionawr 2021