Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae’r gwaith dymchwel yn Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl bellach wedi’u cwblhau, a bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn cyfarfod i drafod camau nesaf y prosiect ar 15 Chwefror.

Mae prosiect Adeiladau’r Frenhines yn rhan allweddol o raglen ehangach y Cyngor i adfywio’r dref, sy’n cynnwys cysylltu glan y môr a’r promenâd gyda chanol y dref.

Mae angen cyllid ychwanegol i ddarparu cam cyntaf y prosiect yn sgil ffactorau gan gynnwys cynnydd o 25% mewn costau adeiladu, o ganlyniad i argaeledd deunyddiau a llafur yn fyd-eang.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda chyngor diweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru, bydd yn rhaid i ni godi lefel y llawr gwaelod o 740mm er mwyn diogelu’r adeiladau rhag y perygl llifogydd cynyddol sydd ynghlwm â lefelau’r môr yn codi, o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd y Cyngor yn gwneud cais am gyllid ychwanegol drwy ei gynllun cyfalaf i alluogi i’r cam cyntaf a’r buddion cysylltiedig gael eu darparu, ac mae cyllid allanol ar gael i helpu i fodloni costau’r cynllun, ac i baratoi’r safle ar gyfer y camau datblygu nesaf.

Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn cyllido rhan o’r prosiect i drawsnewid y safle yn fannau manwerthu, bwyd, a diod, marchnad gyfoes, swyddfa a gofod preswyl, a fydd yn cael ei gwblhau ochr yn ochr â phartneriaid cyflenwi dros gyfnodau gwahanol.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi:

“Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Adeiladau’r Frenhines i fod yn ased ar gyfer Sir Ddinbych, rhywle y mae pobl yn hoffi ymweld, rhywle y mae busnesau’n dymuno buddsoddi, yn ogystal â chyfrannu at adfywio Canol Tref y Rhyl.

“Mae adfywio’r Rhyl yn brosiect hirdymor a fydd yn dod â budd i economi Sir Ddinbych ac mae Adeiladau’r Frenhines yn rhan hanfodol o’r prosiect hwnnw.”

“Bydd datblygiad Adeiladau’r Frenhines a’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei gwblhau ar lan y môr yn cael ei ehangu gan ein cais am gyllid gan raglen Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU a fydd yn cynnwys gwelliannau i’r parth cyhoeddus a gwaith adfywio pellach yng nghanol y dref a’r stryd fawr.”

“Rydym yn ymrwymo i ddarparu’r ased hwn ar gyfer Sir Ddinbych, mae’r buddion economaidd yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r rhaglen adfywio.”

Mae’r Cyngor wedi penodi Wynne Construction Ltd i gwblhau’r prosiect o’r cam cynllunio i’r gwaith dylunio ac adeiladu manwl.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.asp


Cyhoeddwyd ar: 10 Chwefror 2022