Mae trigolion Clawdd Poncen wedi croesawu cyfres o welliannau i’w mannau gwyrdd, yn cynnwys trac pwmpio newydd, diolch i’r rhaglen Natur er Budd Iechyd.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda phreswylwyr, nodwyd cyfres o welliannau, yn cynnwys lle tyfu bwyd cymunedol, llwybr o gwmpas y cae a chyfleuster sydd ei angen yn fawr lle gallai plant ddatblygu sgiliau beicio.
Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n ymgysylltu unigolion a chymunedau i hyrwyddo sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.
Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng timau Cefn Gwlad a Gwydnwch Cymunedol y Cyngor sy’n cael eu cefnogi gan Dîm Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, i ddarparu gwelliannau cymunedol sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae’r lle tyfu bwyd cymunedol, y llwybr a’r trac pwmpio bellach wedi’u cwblhau, ac mae gwelliannau pellach i’r mannau gwyrdd ar Glawdd Poncen wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r ardd gymunedol yn Llygadog i’w gwneud yn haws i drigolion gael mynediad at a mwynhau’r gofod, cyflwyno meinciau newydd a physt gôl, yn ogystal â chynnal sesiynau hyfforddiant beicio i blant, a ariennir trwy brosiect Actif Gogledd Cymru.
Ar ôl cwblhau’r trac pwmpio, cynhaliwyd diwrnod agored ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, lle croesawodd y gymuned Joe Baddeley, beiciwr BMX proffesiynol a’r contractwr a adeiladodd y trac, yn ôl i gynnig hyfforddiant fel bod pawb yn gallu manteisio’n llawn ar y trac newydd.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Mae prosiectau fel hyn yn ffordd wych o ddod â chymuned ynghyd, ac yn enghraifft arall o swyddogion Cyngor Sir Ddinbych a chynghorwyr lleol yn cydweithio â phreswylwyr i wella’r cymunedau y maent yn byw ynddynt yn llwyddiannus. Mae’n hanfodol bod gan blant fan agored diogel i chwarae a gwneud ymarfer corff ynddo, a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o gwblhau’r gwaith”.
I gael mwy o wybodaeth am Natur er Budd Iechyd, ewch i’w gwefan.