Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Graham Boase

Wedi bron i 40 mlynedd yn gweithio mewn llywodraeth leol, mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn ymddeol.

Bydd Graham Boase, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ar y Cyngor dros y pedair blynedd diwethaf ond sydd wedi gweithio i'r Sir ers ei sefydlu ym 1996, yn camu i lawr fel Prif Weithredwr ddiwedd mis Ionawr 2026.

Wedi cymhwyso fel Cynlluniwr Tref, bu Mr Boase yn Gyfarwyddwr Economi a'r Parth Cyhoeddus ac yn Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn Sir Ddinbych. Cyn hynny, bu'n gweithio i ddwy Fwrdeistref yn Llundain.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Mr Boase, “Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint bod yn Brif Weithredwr ar Gyngor a sir mor wych ac er fy mod yn dal i fwynhau'r rôl yn enfawr, yn dilyn cyfnod o fyfyrio, rwyf wedi dod i'r penderfyniad mai nawr yw'r amser i mi baratoi ar gyfer dyfodol gwahanol i ffwrdd o'r gwaith.

“Rwy’n parhau yn gwbl ymroddedig a byddaf yn canolbwyntio ar fy nyletswyddau am weddill fy amser gyda'r Cyngor a bydd y saith mis nesaf yn rhoi cyfle i recriwtio olynydd ac i sicrhau cyfnod trosglwyddo byr. Bydd hefyd yn rhoi amser i'r Prif Weithredwr newydd ymsefydlu cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2027.

“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr a Chynghorwyr fel ei gilydd, o’r gorffennol i’r rhai presennol, am y cymorth, y gefnogaeth a'r cyfeillgarwch drwy gydol fy amser yn Sir Ddinbych – mae’n golygu cymaint i mi. Er fod tristwch wrth adael fy rôl, rwy'n hynod falch o fod wedi gweithio yma am y 30 mlynedd diwethaf a byddaf bob amser yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Sir Ddinbych.”

Yn ymateb i gyhoeddiad Mr Boase, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Hoffwn ddiolch i Graham am ei holl waith caled a’i ymroddiad mewn nifer o swyddi dros y blynyddoedd gyda Chyngor Sir Ddinbych, ac wrth gwrs, yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Prif Weithredwr.

“Yn y swydd hon mae wedi arwain yr awdurdod yn fedrus trwy gyfnod hynod heriol. Mae Graham wedi rhoi cefnogaeth cyson i mi ac rydym wedi gweithio’n dda gyda’n gilydd – byddaf yn colli’r berthynas waith honno. Er ei bod yn drist clywed ei fod yn gadael y Cyngor, rwy’n deall ei fod yn benderfyniad personol a hoffwn ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau ar y broses o benodi Prif Weithredwr newydd i arwain yr awdurdod i’r dyfodol.”

 


Cyhoeddwyd ar: 27 Mehefin 2025