Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae partneriaeth gymunedol wedi helpu bioamrywiaeth ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan.

Mae partneriaeth gymunedol wedi helpu bioamrywiaeth ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan.

Mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n agos gyda grŵp cymunedol sydd y tu ôl i Warchodfa Natur Rhuddlan i dyfu amgylchedd sy’n ffynnu o ran bioamrywiaeth ac i ymwelwyr ei fwynhau.

Mae’r staff gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn rheoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau yn y gymuned.

Yn dilyn y gwaith hwn bu i’r warchodfa natur ennill gwobr llynedd yn y wobr ‘Overall It’s Your Neighbourhood 2022 for Wales’ Cyflwynwyd Tystysgrif Genedlaethol Arbenigrwydd RHS i aelodau’r grŵp a staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad.

Ysgrifennodd Cymru yn ei Blodau eu hadroddiad am y Warchodfa Natur bod “pob maes o reoli, cynllunio a threfnu gwirfoddolwyr drwy ymdrechion ymarferol ar y safle, bod Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn enghraifft wych o feithrin a chreu cynefin.’

Diolch i weledigaeth wyrdd y grŵp a sgiliau staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, mae’r safle wedi tyfu dros y blynyddoedd drwy gyflwyno mentrau gan gynnwys dau ddôl blodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau.

Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a’r grŵp gwarchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Gwagle sy’n gyfeillgar i ddementia gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi plygu, seddi coed derw Cymreig traddodiadol wedi eu creu ar y safle.

Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Rhuddlan: “Mae’r Pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ac yn falch o gael y wobr Tystysgrif Genedlaethol o Arbenigrwydd yn y gwobrau “Prydain yn ei Blodau” y llynedd.

“Fel Cadeirydd, gyda bwriad o wella ac amrywio cynefinoedd y warchodfa ar gyfer addysgu a mwynhad ein hymwelwyr, y rhan fwyaf yn breswylwyr lleol ond hefyd yn ymwelwyr ar eu gwyliau, gallaf dynnu ar amryw sgiliau’r pwyllgor. Mae’r rhain yn cynnwys arbenigedd ar fywyd gwyllt a gwybodaeth am yr ardal leol, gan gynnwys cynghorwyr tref a sir, ac wrth gwrs y sgiliau bioamrywiaeth Garry Davies, Jim Kilpatrick a Brad Shackleton o Wasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.

“Ers ei agor yn 2011, mae preswylwyr Rhuddlan wedi mwynhau’r gwagle agored diogel hwn. Mae teuluoedd yn dod â phlant i chwarae a chael picnic, cerdded gyda’u cŵn a thynnu lluniau o fywyd adar. Yn ogystal, rydym yn trefnu helfeydd pryfaid ar gyfer plant meithrinfa leol ac ysgol gynradd leol, cefnogi gwirfoddolwyr i ddysgu am blygu gwrychoedd ac arwain teithiau cerdded i grwpiau oedolion lleol.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd hi’n bleser cael ymweld â Gwarchodfa Rhuddlan yn ddiweddar i weld sut mae brwdfrydedd y grŵp i wella’r tir wedi dod yn fyw drwy reolaeth gan ein staff Gwasanaeth Cefn Gwlad.

“Mae’r cydweithio hyn wedi cynhyrchu ardal wych yn Sir Ddinbych ar gyfer cefnogi a gwella bioamrywiaeth. Mae cyfoethogrwydd gwybodaeth yn gyrru’r datblygiad y safle gan y grŵp, ynghyd â sgiliau staff Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor wedi creu ardal lle gall Rhuddlan fod yn falch wrth gefnogi ein bywyd gwyllt a natur.”

 

Nodiadau i olygyddion:

Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn hygyrch i bawb. Mae’r safle wedi’i drawsnewid i fod yn lleoliad delfrydol i fywyd gwyllt ffynnu ac ardal hamdden i bobl leol ac ymwelwyr.

Mae’r llwybr byr yn eich tywys o amgylch pyllau, lle mae adar yn nythu bob blwyddyn a dolydd, sydd wedi eu gwella’n ddiweddar mewn partneriaeth gyda chymuned ac ysgol leol.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgeisio yng nghystadleuaeth “It’s your Neighbourhood’ Cymru yn ei Blodau ar gael drwy glicio’r ddolen hon https://www.walesinbloom.org/neighbourhood.html

 


Cyhoeddwyd ar: 22 Chwefror 2023