Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn estyn allan i bobl ifanc ar draws y sir a allai fod wedi dechrau yn y coleg, y chweched ddosbarth neu’r brifysgol ym mis Medi ond sydd wedi penderfynu ers hynny nad dyma’r llwybr cywir iddyn nhw.
Os ydych chi wedi gadael addysg yn ddiweddar ac yn ansicr o ran beth i’w wneud nesaf, gall Sir Ddinbych yn Gweithio eich helpu. Mae’r gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o gymorth am ddim i helpu unigolion i archwilio eu dewisiadau, magu hyder, a chymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, hyfforddiant neu addysg bellach.
Sylwer, mae cymorth ond ar gael i unigolion sydd ddim mewn addysg mwyach.
Clybiau Swyddi Wythnosol
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal sesiynau clwb swyddi rheolaidd mewn llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych. Mae’r sesiynau galw heibio anffurfiol hyn yn helpu gydag ysgrifennu CVs, chwilio am swyddi, paratoi at gyfweliadau a mwy.
Arweiniad Un i Un
Gall pobl ifanc hefyd gael mynediad at gymorth un i un wedi’i deilwra gan fentoriaid profiadol a fydd yn gweithio gyda nhw i ddeall eu nodau a’u helpu i gynllunio eu camau nesaf.
Cymorth Lles
Gan gydnabod y gall penderfyniadau gyrfa effeithio ar iechyd meddwl a lles, mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd yn cynnig cymorth lles fel rhan o’i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys mynediad at weithgareddau grŵp i adeiladu hyder, a chyfeirio at wasanaethau arbenigol lle bo angen, sydd i gyd wedi’i ddylunio i helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy cadarnhaol ac wedi’u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen.
Digwyddiadau i Ddod
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio dros yr wythnosau nesaf i gysylltu pobl ifanc â chyfleoedd, cyflogwyr a gwasanaethau cymorth lleol. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau blasu gyrfaoedd, gweithdai lles a digwyddiadau cwrdd â’r cyflogwr.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i’r Afael ag Amddifadedd:
“Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth hanfodol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc ledled y Sir.
"Rydym yn deall y gall newid cyfeiriad fod yn frawychus, ond ni ddylai neb deimlo ar ei ben ei hun yn y broses honno.
"Mae’r gwasanaeth am ddim yn darparu cefnogaeth ystyrlon, bersonol i helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi, ac yn barod i gymryd eu camau nesaf."
Meddai Ruth Hanson, Prif Reolwr Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Gwyddom nad yw siwrnai pob unigolyn ifanc yn syml.
"Os ydych chi wedi dechrau cwrs ac nad yw’n gweithio allan, neu os ydych yn ansicr o ran beth i’w wneud nesaf, rydym yma i’ch helpu.
!Mae ein tîm yn cynnig cymorth ymarferol cyfeillgar i’ch helpu chi i symud ymlaen â hyder.”
I ganfod mwy am y cymorth sydd ar gael neu i siarad ag aelod o’r tîm, ewch i weld neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.