Mae nythfa arfordir o adar yn Sir Ddinbych wedi torri record y tymor hwn.
Y grŵp o Fôr-wenoliaid Bychain ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r nythfa fridio fwyaf yng Nghymru.
Mae’r safle’n adnabyddus yn rhyngwladol ac mae’n cyfrannu at dros 10 y cant o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU, ac yn atgyfnerthu nythfeydd eraill.
Mae tymor 2022 yn nodi 18 mlynedd ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ymrwymo i warchod y nythfa. Ar ôl codi’r cyfyngiadau Covid-19, roedd modd cynnal gweithgareddau llawn ar y safle eto, a daeth dros 1,138 o ymwelwyr i ymweld â’r traeth a chefnogi a gweld y nythfa.
Cofnodwyd 211 o barau bridio eleni – y nifer uchaf sydd wedi’i gofnodi yng Ngronant, sy’n gynnydd o 23.4 y cant ar y cyfrif diwethaf yn 2018.
Yn ogystal â hynny, cadarnhawyd cyfanswm o 209 o adar ifanc – yr ail nifer uchaf ar gofnod yng Ngronant.
Y gred gyffredin yw mai’r llinell sylfaen i gynnal nythfa o Fôr-wenoliaid Bychain yw 0.74 aderyn ifanc fesul pâr, ac roedd ffigwr y nythfa eleni’n 0.99 aderyn ifanc fesul pâr, sy’n arwydd cadarnhaol am ddyfodol yr adar prin yma.
Y tymor yma hefyd oedd y flwyddyn fwyaf llwyddiannus i roi modrwyau lliw ar gywion. Gyda chymorth gan Nigel Wilde o Merseyside Ringing Group, cafodd 93 o gywion fodrwy liw, a cyfanswm o 236 o gywion fodrwy Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (dim ond un cyw’n llai na’r nifer uchaf erioed y llynedd yn 2021).
Daeth bron i 300 o blant i ymweld â’r safle y tymor hwn hefyd, diolch i waith swyddog ymgysylltu a wardeiniaid y prosiect. Roedd dros 200 o blant yn ychwanegol wedi bod yn rhan o’r prosiect hefyd, drwy gynnal ymweliadau ag ysgolion.
Dros y tymor, bu unigolion o Grŵp Môr-wenoliaid Bychain Gogledd Cymru, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Merseyside Ringing Group, Prifysgol Bangor, Ysgol Uwchradd Prestatyn a’r RSPB yn rhoi eu hamser i wirfoddoli gyda’r prosiect.
Roedd y cymorth hwn yn golygu cyfanswm o 600 awr o wirfoddoli; bu’r gwirfoddolwyr yn helpu i hel cudyllod coch oedd yn ceisio cael gafael ar y cywion oedd ar lawr, a helpu gyda thasgau eraill, o gnocio pyst i adnabod lluniau.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd yr holl amser a’r ymdrech gan wirfoddolwyr yn allweddol i dymor llwyddiannus, cydweithredol a chynhwysol. Rydym ni’n falch ein bod wedi gallu ffarwelio â’r Môr-wenoliaid, gan ddymuno’n dda iddyn nhw ar eu taith wrth fudo i Orllewin Affrica ac rydyn ni’n edrych ymlaen iddynt ddychwelyd y flwyddyn nesaf.”
“Roedd llwyddiant y tîm eleni’n bosib’ oherwydd penderfyniad, brwdfrydedd a chymorth yr holl rai a fu’n rhan o’r prosiect.”
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect neu os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli gyda’r nythfa o Fôr-wenoliaid Bychain, cysylltwch â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar 01745 356197.
Llun gan Michael Steciuk