Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Canlyniadau gweithdy adfywio

Cydweithredu, cefnogaeth grant a rennir a mannau cynhwysol mwy hygyrch oedd rhai o’r blaenoriaethau a'r heriau a nodwyd gan sefydliadau'r trydydd sector mewn gweithdy adfywio allweddol.

Cynhaliodd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl - y cydweithfa y tu ôl i'r ymgyrch Ein Rhyl/Our Rhyl - y digwyddiad yng nghlwb rygbi'r dref, gyda hyd at 25 o aelodau allweddol o’r gymuned ac elusennau yn bresennol.

Ymhlith y rhain roedd Advanced Brighter Futures, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, Willow Collective, Credu/Gofalwyr Ifanc WCD, Clwb Rygbi'r Rhyl, Wicked Wales a Chanolfan Menywod Gogledd Cymru.

Cyflwynwyd y sesiwn gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), rhanddeiliad allweddol a rhan o'r tîm sydd â'r dasg o ymgysylltu â'r sectorau preifat a chyhoeddus ac addysgwyr a helpu i lunio cynllun gwerth £20 miliwn a fydd yn gwella seilwaith, yn creu cyflogaeth ac yn cael gwared ar rwystrau i gyfleoedd yn y dref glan môr.

Diolchodd Alison Hill, Cynorthwyydd DVSC, i'r rhai a oedd yn bresennol am eu syniadau a'u gweledigaeth, a oedd yn cynnwys canolfan ganolog i gefnogi gweithgareddau a gweithrediadau'r trydydd sector yn y gyrchfan, gan helpu i nodi grantiau sydd ar gael a lleddfu "pwysau gweinyddol a gorgyffwrdd" wrth wneud cais am gyllid.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r holl elusennau a sefydliadau trydydd sector a ymunodd â ni ar gyfer ein gweithdy yn y Rhyl,” meddai Alison.

“Roedd eich amser, eich egni, a’ch cyfraniadau meddylgar yn amhrisiadwy. Roedd yn ysbrydoledig gweld cymaint o unigolion angerddol yn dod ynghyd ag ymrwymiad ar y cyd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y dref.

“Mae’r syniadau a rannwyd, a’r heriau a drafodwyd, yn allweddol i lunio cynllun adfywio sy’n adlewyrchu anghenion a gobeithion y gymuned.

“Wrth i ni edrych ymlaen at gyflawni gweledigaeth adfywio 10 mlynedd, £20 miliwn y Rhyl, bydd eich lleisiau a’ch cydweithrediad parhaus yn gwbl hanfodol wrth greu dyfodol ffyniannus a chynhwysol i bawb.”

Yn gynharach, roedd Alison wedi cynnal cyfnod o ymgynghori â grwpiau dros gyfres o wythnosau cyn y digwyddiad a datgelodd fod awydd i weithio’n agosach gyda’i gilydd a chael effaith hyd yn oed yn fwy cadarnhaol a pharhaol.

“Cawsom lawer o adborth ar yr anghenion mwyaf dybryd, a beth yw’r problemau mwyaf, gydag enghreifftiau’n cynnwys lefelau uchel o dlodi, datgysylltiad ieuenctid, diffyg tai fforddiadwy, iechyd meddwl a dirywiad canol y dref,” meddai Alison.

“I’r mwyafrif, roedd yr atebion yn cynnwys strydoedd mwy diogel a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, mannau cyhoeddus glanach a gwyrddach, cyfleusterau hamdden gwell ac adeiladau cymunedol hygyrch, a mwy o gyllid ac adnoddau ar gyfer sefydliadau gwirfoddol.”

Galwodd y rhai a oedd yn bresennol hefyd am gyllid tymor hwy ar gyfer prosiectau i ostwng trosiant staff a hybu morâl; i rannu arfer gorau gyda threfi a dinasoedd cyfagos; defnyddio siopau gwag yng nghanol y dref a bod yn fwy entrepreneuraidd; ymgysylltu mwy ag ysgolion a cholegau; ysgogi cefnogaeth y sector preifat a meithrin partneriaethau cryf gyda busnesau lleol, ac i “gymryd dull newydd” o gydweithio er gwaethaf unigolion yn cyfaddef ei fod yn “cymryd llawer i wneud i bartneriaethau weithio” mewn maes heriol yn genedlaethol.

Galwodd Prif Weithredwr DVSC, Tom Barham, am gyfarfodydd mwy rheolaidd ac ymgysylltu wyneb yn wyneb i adeiladu ar y momentwm, gan ychwanegu: “Diolch am eich amser a’ch ymrwymiad i’r sgwrs hon. Gyda’n gilydd gallwn wneud y gorau o’r nifer o gryfderau sydd gan y Rhyl eisoes.”

Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl (Cymraeg), a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.


Cyhoeddwyd ar: 21 Gorffennaf 2025